Strwythur y Gweithlu a Gweithgarwch Economaidd
Data'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB).
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am strwythur gweithlu Abertawe, gan ddefnyddio data o Arolwg Poblogaeth Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), yn awgrymu bod gweithgarwch economaidd a chyfraddau cyflogaeth yn Abertawe rhwng cyfartaleddau Cymru a'r DU. Mae'r nifer cymharol fawr o fyfyrwyr sy'n byw yn Abertawe hefyd yn cael rhywfaint o effaith ar yr ystadegau lleol.
Fel prif ganolfan fasnachol De-orllewin Cymru, mae gan Abertawe ganrannau uwch o gyflogaeth yn y sectorau gwasanaeth a chyflogaeth gweithgynhyrchu is cyfatebol. Mae yna hefyd gyfrannau uwch o bobl yn gweithio'n rhan-amser a llai o bobl hunangyflogedig.
Tabl 2 Strwythur y Gweithlu - mesurau allweddol (Word doc, 27 KB)