Toglo gwelededd dewislen symudol

Proffiliau ardal etholaethol

Proffiliau ystadegol o'r tair ardal etholaethol yn Abertawe.

Etholaethau seneddol yw'r ardaloedd a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol (ASau) i Senedd y DU yn Llundain, ac Aelodau'r Senedd (ASau) i Senedd Cymru yng Nghaerdydd. Yn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2019, roedd 650 o etholaethau yn y DU, yr oedd 40 ohonynt yng Nghymru, a thair yn ardal Abertawe - Gŵyr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe. Fodd bynnag, bydd ffiniau ardaloedd etholaethau seneddol y DU (AESau) yn newid yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ym mis Gorffennaf 2024. Ar hyn o bryd nid yw ardaloedd etholaethol y Senedd yn debygol o newid.

Mae proffiliau ystadegol yr ardaloedd etholaethol presennol wedi eu datblygu, yn seiliedig ar ein fformat proffil ward. Yn gyffredinol mae'r data sy'n gynwysiedig yn rhain yn ystadegau cyhoeddedig ar gyfer ardal etholaethol (PCA), ochr yn ochr â ffigwr cymharydd ar gyfer Abertawe a Cymru, ynghyd â gwybodaeth gyd-destunol a gwybodaeth fapio.

Mae'r proffiliau ar gael ar gyfer ardaloedd etholaethol:  Gŵyr (PDF) [2MB] Dwyrain Abertawe (PDF) [3MB] a  Gorllewin Abertawe (PDF) [4MB] (Gorffennaf 2023). Mae'r ardaloedd hyn yn cynrychioli etholaethau presennol Senedd Cymru ac etholaethau seneddol y DU hyd at fis Gorffennaf 2024. Bydd proffiliau sy'n seiliedig ar ardaloedd etholaethau seneddol newydd y DU yn cael eu datblygu cyn gynted â phosib.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y proffiliau hyn neu mae angen mwy o wybodaeth ystadegol arnoch am ardaloedd etholaethol yn Abertawe, cysylltwch â ni.

Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.

Close Dewis iaith