Toglo gwelededd dewislen symudol

Proffiliau Wardiau

Mae proffiliau pob un o'r 32 o wardiau etholiadol Abertawe ar gael.

Mae proffiliau ward yn cyfuno amrywiaeth o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth arall am bob ward etholiadol yn Abertawe.  Maen nhw'n defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau data ac mae eu cynlluniau safonol yn galluogi cymharu ardaloedd yn gyflym ac yn rhwydd, a nodi patrymau ac amrywiadau.

Yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ar 5 Mai 2022, mae rhai o ffiniau'r wardiau yn Abertawe wedi newid.  Mae'r proffiliau ar y dudalen hon yn adlewyrchu'r wardiau etholiadol newydd.  Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau diweddar ar gael yn Mapiau ward - Abertawe.

Mae'r proffiliau ward diweddaraf (Rhagfyr 2024) yn ymgorffori amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys:

  • Canlyniadau etholiadau wardiau, Mai 2022, gan gynnwys y cynghorwyr a etholwyd ym mhob ward.
  • Lleoliad, mapiau ffiniau a wardiau cyfagos.
  • Crynodeb o newidiadau i wardiau lleol yn dilyn Adolygiad Etholiadol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Abertawe cyn mis Mai 2022.
  • Poblogaeth lefel ward, arwynebedd tir a dwysedd poblogaeth (amcangyfrifon canol 2022, cyhoeddwyd 25 Tachwedd 2024).
  • Gweithwyr (amcangyfrifon gweithle 2023, pan fyddant ar gael) a phrif gyflogwyr y ward.
  • Detholiad o awyrluniau sy'n dangos nodweddion, cyfleusterau ac ardaloedd lleol wardiau.
  • Gwybodaeth gyd-destunol am nodweddion allweddol a datblygiad pob ward.

Mae'r proffiliau hyn hefyd yn cynnwys ystadegau lleol cychwynnol o Gyfrifiad 2021 ar gyfer wardiau, a gyhoeddwyd  gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn gynnar yn 2023. Mae crynodeb o ddata'r cyfrifiad ar gyfer pob ardal ar gael ar gyfer y pynciau canlynol:

  • nodweddion poblogaeth: gwlad geni, grŵp ethnig, gallu i siarad Cymraeg, iechyd cyffredinol, anabledd, cymwysterau
  • Maint a chyfansoddiad yr aelwyd
  • math o lety
  • daliadaeth tai
  • statws gweithgarwch economaidd. 

Mae'r proffiliau hefyd yn cynnwys y safleoedd lleol mwyaf diweddar (2019) o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Llywodraeth Cymru), ar sail ACEHI (2011) 'ffit orau'.

Mae proffil cyfatebol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe - sy'n defnyddio'r un fformat ag a ddefnyddiwyd yn y proffiliau wardiau lle bo modd - hefyd ar gael ar y dudalen hon.  Mae proffiliau tebyg o'r tair Ardal Etholaeth leol yn Senedd Cymru hefyd ar gael yn Proffiliau ardal etholaethol - Abertawe

Nid yw allbynnau ystadegol rheolaidd eraill gan SYG a ffynonellau eraill yn cael eu cyhoeddi'n gyffredinol eto ar sail y wardiau newydd.  Felly, mae rhai agweddau ar y proffiliau ar hyn o bryd yn fwy cyfyngedig eu cwmpas nag o'r blaen.  Rydym yn bwriadu i'r cynnwys proffiliau wardiau gael ei ddatblygu a'i ehangu dros amser wrth i ragor o wybodaeth leol a data ystadegol ddod ar gael.

Rydyn ni'n ystyried ffyrdd o ddatblygu a gwella'r proffiliau ward yn rheolaidd, felly bydden ni'n croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau

Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Ionawr 2025