Toglo gwelededd dewislen symudol

Proffiliau ardal

Gwybodaeth amlinellol am Ddinas a Sir Abertawe a'i ardaloedd lleol.

Mae'r proffiliau'n dod ag amrywiaeth o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth arall am ardaloedd lleol yn Abertawe ynghyd.  Mae proffiliau ar gael ar gyfer y daearyddiaethau canlynol:

  • 32 o Wardiau Etholiadol Abertawe
  • proffil cyfwerth ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
  • y tair Ardal Etholaeth leol yn Senedd Cymru.

Defnyddir amrywiaeth eang o ffynonellau data i lunio'r proffiliau ac mae eu cynllun safonedig yn golygu y gellir cymharu ardaloedd.  Mae ffigurau Abertawe a/neu Gymru hefyd wedi'u cynnwys yn y proffiliau fel y bo'n briodol.

Os oes angen gwybodaeth neu gyngor ychwanegol arnoch am y proffiliau hyn neu argaeledd data ar gyfer ardaloedd yn Abertawe, cysylltwch â ni.  Rydym yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu a gwella'r proffiliau'n rheolaidd felly byddem yn croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau hefyd.

Proffiliau Wardiau

Mae proffiliau pob un o'r 32 o wardiau etholiadol Abertawe ar gael.

Proffiliau ardal etholaethol

Proffiliau ystadegol o'r tair ardal etholaethol yn Abertawe.

Poblogaeth

Ystadegau am boblogaeth ac aelwydydd - amcangyfrifon poblogaeth, tueddiadau diweddar, data ardaloedd bach, dwysedd, amcangyfrifon aelwydydd, rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Gorffenaf 2024