Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect gwella adeiladau YG Gŵyr

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif a Chyngor Abertawe.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddarparu amgylchedd dysgu sy'n addas at ddibenion yr 21ain ganrif ar gyfer disgyblion a staff yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Rhagwelir y bydd diffyg lle ar y safle erbyn 2021 i ddiwallu anghenion y disgyblion sy'n dymud o ysgolion cynradd partner eraill. Felly, cynigir estyn ôl troed yr adeiladau presennol i ateb y galw ac i fynd i'r afael ag anghenion addasrwydd ac amodau ar y safle.

Mae manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Digonolrwydd angen sylfaenol ar gyfer lleoedd cyfrwng Cymraeg yn y lleoliad cywir
  • Gwella digonolrwydd ac ansawdd yr amgylchedd dysgu
  • Gwella cyflwr presennol yr adeiladau a lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd heb ei wneud yn yr ysgol lle bo'n briodol
  • Potensial ar gyfer cyfleusterau allanol gwell i'w defnyddio gan y gymuned.

Y Diweddaraf am Gynnydd - Hydref 2020

  • Ar 23 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Cabinet benodiad Kier i ymgymryd a'r gwaith adeiladu ac ailfodelu.
  • Amodau cynllunio cyn adeiladu wedi'u cymeradwyo - Mehefin 2020.
  • Dechrau ar y safle 6 Gorffennaf 2020.
  • Digwyddiad torri tyweirch 7 Gorffennaf 2020.
  • Llofnodi dur gan ddisgyblion 9 Hydref 2020.

 

'Iofnodi'r dur'

Mae'r gwaith i osod polion a sylfeini a chodi ffrâm ddur saernïol wedi'i gwblhau ar gyfer yr estyniad yn YG Gŵyr. I ddathlu'r garreg filltir, gofynnwyd i ddisgyblion o'r ysgol 'lofnodi'r dur' ar gyfer y dyfodol, a chyfansoddon nhw gerdd fer gyda'r geiriau wedi'u hysgrifennu ar esgyrn yr adeilad.


Hon a'i Chymraeg sydd annwyl
A hon a'i addysg sydd hwyl
For her the Welsh language is dear
And for her the education is fun.

 

Llinell amser ddangosol

Dyddiad

Carreg Filltir

Ionawr 2019Cwblhau arfarniadau economaidd, arfarniad ariannol a gweddil yr ABA
Chwefror - Mawrth 2019Grŵp Craffu Achosion Busnes a Phanel Cyfalaf LlC i ystyried yr Achos Busnes Amlinellol (ABA)
Tachwedd 2018 - Mai 2019Proses ceisiadau cynllunio
Ionawr 2020 - Chwefror 2020Grŵp Craffu Achosion Busnes a Phanel Cyfalaf LlC i ystyried yr Achos Busnes Llawn ac adrodd i'r Cabinet
Mawrth 2020Llywodraeth Cymru i dderbyn a llofnodi'r contract
Mawrth 2020Penodi contractwr
Mehefin 2020Dechrau adeiladu
Mai 2022Cwblhau'r gwaith adeiladu

 

 

Tim y prosiect

Mr D Jenkins, Pennaeth

Nicola Jones, Rheolwr Datblygu Achosion Busnes Ysgolion

Jenny Lewis-Jones, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Alex Harries, Rheolwr Prosiectau Pensaerniol

Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael

Manteision i'r Gymuned

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle y bo'n bosib, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.

Cynnwys disgyblion

Bydd cynnwys pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Perianneg a Mathemateg) yn rhan annatod o'n prosiect.  Bydd y contractwr a'r cyngor yn gweithio ar y cyd â'r ysgol i gefnogi cyfleoedd dysgu drwy gydol y prosiect adeiladu.

Prosiectau cymunedol

Fel rhan o'r prosiect, disgwylir i'r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal. Darperir mwy o fanylion am hyn wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Darluniau pensaer/cynlluniau cymeradwy/lluniau cynnydd

Dim ar hyn o bryd.

Cylchlythyrau

Dosbarthwyd y cylchlythyr cyntaf i'r ardal ym mis Mehefin 2020.

Close Dewis iaith