Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Pathewod y Cyll Coed yr Esgob

Yr haf hwn rydym yn gwneud arolygon o bathewod y cyll yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob.

Hazel dormouse: photo credit Kathryn Mach

Mae Pathewod y Cyll yn brin ac yn agored i ddifodiant yn y DU.

Yng Nghymru mae'r amrediad presennol o bathewod yn y de ac ar hyd ffin Cymru/Lloger. Dëellir mai'r prosiect hwn yw'r arolwg cynhwysfawr cyntaf o bathewod y cyll yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob.

  • Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n byw gerllaw i helpu i wirio twneli olion traed (techneg anymosodol o wneud arolygon o bathewod y cyll) rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae'r arolwg yn cynnwys  gwirio'r cardiau bob pythefnos a rhoi rhai newydd yn lle'r rhai sydd ag olion traed arnynt neu sydd wedi'u difrodi a hefyd roi mwy o inc ar y pad inc. Cynhelir y gwiriadau hyn mewn grwpiau bach yn ystod yr wythnos (ar ddydd Mercher).
  • Fel rhan o'r arolwg, unwaith y mis rydym hefyd yn gwirio blychau nythu a thwneli nythu ynghyd â thwneli olion traed. Cynhelir y gwiriadau hyn mewn grwpiau bach dan oruchwyliaeth arolygwr trwyddedig a phrofiadol ar ddydd Sul.
  • Darperir hyfforddiant ad-hoc i unrhyw wirfoddolwyr sy'n ymuno â ni yn hwyrach yn y tymor arolygu.
  • Mae lle i 8 person ar y mwyaf ar gyfer pob arolwg, felly os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gyda'r prosiect, cysylltwch am ragor o wybodaeth. E-bostiwch Evelyn.Gruchala@swansea.gov.uk

Mae Prosiect Pathewod y Cyll Coed yr Esgob yn gydweithrediad rhwng Cyngor Abertawe a Thirwedd Genedlaethol Gŵyr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2024