Toglo gwelededd dewislen symudol

Pysgod amdani

Chwech o gynlluniau gwersi gwych sydd wedi eu hanelu at oedran 9-11, a deunydd y gellir ei lwytho i lawr ar gyfer athrawon i'w ddefnyddio yn y dosbarth!

Gwers 1 - Pysgod a Fi

Yn y cyntaf o'n chwe cynllun gwers, mae plant yn cael cyfle i archwilio rhywogaethau pysgod a'r hyn y gallant ei wneud gyda hwy. Mae gan y thema hon gysylltiadau cwricwlaidd â Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol, Iaith, Sgiliau Llythrennedd a Chyfathrebu.

Gwers 2 - Pysgod a'm Cyfeillion

Dangos i blant sut mae casglu gwybodaeth ar dablau a siartiau. Casglu gwybodaeth gan eu ffrindiau am ba rywogaethau sydd orau ganddynt. Byddant wedyn yn gallu trafod y canlyniadau gyda'i gilydd. Y cysylltiad â'r cwricwlwm yma yw Datblygu Mathemateg.

Gwers 3 - Pysgod ar fy Mhlât

Mae'r wers hon yn canolbwyntio ar Ddatblygu Creadigol gan helpu plant i ddatblygu rhai rysetiau syml ynghyd â fideos o plant yn coginio'r rysetiau. Dylai'r plant gael eu hannog i werthuso'r pryd ac i awgrymu ffyrdd y credant hwy y gellir ei wella.

Gwers 4 - Ffeithiau am Bysgod

Wrth edrych ar ffeithiau am bysgod, mae plant yn cael cyfle i archwilio sut mae ymarfer corff a bwyta'r math cywir a'r meintiau cywir o fwyd yn helpu bodau dynol i gadw'n iach. Mae'r thema hon yn cysylltu â Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Diwylliannol yn y cwricwlwm presennol.

Gwers 5 - Pysgod i'm Teulu

Mae Pysgod i fy Nheulu yn edrych ar sut y gall plant gynnal arolwg ar aelodau o'u teulu i ganfod beth yw eu harferion bwyta pysgod. Mae'r thema hon yn helpu i gyflwyno Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Gwers 6 - Pysgod a Ffitrwydd

Mae pysgod a ffitrwydd yn edrych ar bwysigrwydd bwyta diet iach, yn egluro sut mae ymarfer corff yn effeithio eu cyrff ac yn eu hannog i wneud addunedau iechyd ar gyfer y dyfodol i aros yn ffit ac yn iach. Mae'r thema hon yn cysylltu â Datblygiad Corfforol yn y cwricwlwm cyfredol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mehefin 2023