Rhagor o wybodaeth am yr 'Un Pwynt Cyswllt'
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn gofyn cwestiynau er mwyn i ni ddeall yr hyn sy'n digwydd i chi a'ch teulu. Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a oes angen cefnogaeth a dod o hyd i'r help gorau i chi.
Rydym yn archwilio cryfderau a pheryglon mewn teuluoedd er mwyn sefydlogi ac atgyfnerthu sefyllfa plentyn a theulu.
Ein nod yw eu hysbysu, eu cefnogi a'u grymuso i wneud dewisiadau i aros yn ddiogel, yn hapus ac yn iach.
Efallai ceir cefnogaeth o fewn eu rhwydwaith naturiol o deulu neu ffrindiau, ond gallai hefyd fod cefnogaeth o leoedd yn eu cymunedau, fel elusennau.
Rydym yn gwneud hyn am ei fod yn ein helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig i blant, pobl ifanc, teuluoedd a'u rhwydweithiau, ac mae hefyd yn rhan yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) sy'n canolbwyntio ar weithio gyda phobl mewn partneriaeth, ac atal anghenion cynyddol.
Gall teuluoedd sy'n byw yn ninas a sir Abertawe gysylltu â ni'n uniongyrchol i ofyn am help neu gyngor. Weithiau bydd pobl fel athrawon neu ymwelwyr iechyd hefyd yn cysylltu â ni i weld a oes modd i ni gynnig cefnogaeth ychwanegol i deulu.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni?
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, bydd gweithiwr cymdeithasol cymwys o'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig (a elwir yn GCChI) yn gofyn cwestiynau i'n helpu i ddeall beth sy'n digwydd yn y teulu. Rydym yn penderfynu a oes angen cefnogaeth a phwy fyddai'r person neu'r sefydliad gorau i'ch helpu.
Bydd un ymweliad â ni yn ddigon i asesu'r help sydd ei angen arnoch.
Gallwn siarad â'r plentyn, y person ifanc a'r teulu am yr hyn sy'n bwysig, ac edrych ar sut y gellir cyflawni hynny, gellir gwneud hyn trwy:
- roi gwybodaeth a chyngor i chi;
- trefnu cymorth neu gefnogaeth gynnar gan y cyngor;
- dod o hyd i gefnogaeth i chi gan sefydliadau eraill; neu
- penderfynu bod y gefnogaeth y mae ei hangen ar eich plentyn neu'ch teulu yn gofyn am weithiwr cymdeithasol.
Bydd y trafodaethau, yr asesiadau a'r gefnogaeth yn gytbwys i ddiwallu anghenion y teulu.
Os yw'n ymddangos bod angen gweithiwr cymdeithasol arnoch, trefnir ymweliad fel y gallant siarad â'ch teulu i asesu'r help sydd ei angen arnoch.
Os oes pryderon amddiffyn plant, bydd angen cynnwys y gwasanaethau plant a theuluoedd bob amser, a bydd cynllun amddiffyn gofal a chymorth ar gael.
Yn ogystal â'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Integredig (GCChI), mae UPC hefyd yn gartref i'r Ganolfan Ddiogelu Integredig, y Tîm Lles Teuluol, y Ganolfan Cam-drin Domestig a'r Ganolfan Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant/Camfanteisio Troseddol.