Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Rhodfa Bywyd Gwyllt Hillside gan gynnwys Chwarel Rosehill

Mae Rhodfa Bywyd Gwyllt Hillside yn ardal eang naturiol agored (27 hectar), tua milltir o ganol dinas Abertawe.

Wedi'i gosod rhwng ardaloedd Townhill, Mayhill a Mount Pleasant, mae'n ofod awyr agored gwerthfawr sydd hefyd yn cynnal amrywiaeth syfrdanol o fywyd gwyllt. Mae hefyd o gryn werth addysgol, gyda'i golygfeydd eang o Fae Abertawe a'i hanes cyfoethog ac amrywiol.

Mae'r safle'n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys coetir, rhostir, prysgwydd a gwlypdir. Cewch weld cadnoid a bysedd y cŵn, rhedynen gyfrdwy ac iâr fach yr haf y fantell goch yn ogystal â therfynau hen gaeau a chloddiau sy'n dyddio o gyfnod y Ddeddf Cau Tir Comin yn y 18fed ganrif.

Mae llawer o welliannau wedi'u gwneud gan grwpiau cymunedol lleol, Canolfan Hyfforddiant Dinas Abertawe, gwirfoddolwyr ac ysgolion gyda chymorth Tîm Cadwraeth Natur Dinas a Sir Abertawe.

Chwarel Rosehill

Yn wreiddiol, dechreuwyd chwarela yma yn yr 1840au, gan ddarparu llawer o'r garreg adeiladu at ddefnydd lleol. Ar ôl blynyddoedd o esgeulustod, mae Chwarel Rosehill bellach yn mwynhau bywyd newydd fel noddfa dawel lle gall bywyd gwyllt gysgodi a phobl ddianc o brysurdeb a helbul bywyd y ddinas.

Ers y 1980au, mae gwaith arloesol gan Grwp Cymunedol Chwarel Rosehill wedi trawsnewid y safle yn Barc Cymunedol cyntaf Abertawe, gan wella mynediad i bawb a hybu datblygiad cymuned gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid. Nawr ceir sawl pwll yno, nant a rhaeadr a llawer o fursennod a gweision y neidr. Un o'r pethau arbennig yn Chwarel Rosehill yw'r rhedynen gyfrdwy.

Ceir llwybr BMX, ardal i gicio pêl, byrddau picnic a labyrinth Cretaidd anarferol. Mae pobl yn dweud bod cerdded y labyrinth yn gallu creu ymdeimlad o dawelwch a bodlonrwydd - beth am roi cynnig arno? Mae Chwarel Rosehill ar Drywydd Cynaladwyedd Abertawe. 

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Cyfleusterau

  • Does dim parcio ffurfiol ynghlwm wrth y safle

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS643941
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr ac 165 Abertawe

Gallwch fynd i'r safle hir hwn o sawl cyfeiriad: h.y. oddi ar Heol Pantycelyn ger Prifysgol Fetropolitan Abertawe; oddi ar Gilgant Pen-lan; oddi ar Heol Teras; o Deras Fairfield; Nicander Parade; pen Stryd Hewson; Heol North Hill; Baptist Well Place; High View; Heol Granogwen.

Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu