Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - hawliau a chyfrifoldebau'r awdurdod lleol (ALL)

Mae gan yr ALI rwymedigaeth statudol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol yn yr ALI yn derbyn addysg addas yn yr ysgol neu fel arall ac nad yw'n blentyn sy'n colli addysg (CME).

Ni ddylai ysgol nag awdurdod lleol eich annog i dynnu eich plentyn oddi ar gofrestr ysgol er mwyn osgoi bod eich plentyn yn cael ei wahardd neu eich bod chi'n cael eich erlyn.

Mae gan yr ALI ddyletswydd i wneud trefniadau er mwyn nodi plant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Fel rhieni sy'n addysgu'ch plant mewn lleoliad heblw yn yr ysgol, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am yr addysg y mae'ch plentyn yn ei derbyn.

Argymhellir bod cyfarfod cychwynnol yn cael ei gynnal gyda theuluoedd ADdC i drafod eu darpariaeth ac unrhyw gyngor neu gefnogaeth y gall fod ei hangen arnynt.

Cysylltir â'r rhiant drwy e-bost/llythyr i drefnu cyfarfod at y diben hwn. Cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliad y cytunir arno gan bawb. Ar ôl hynny, bydd Ymgynghorydd ADdC yr ALl yn cysylltu â theuluoedd sy'n addysgu gartref o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor, a gwrando ar farn y plentyn a'r teulu ac ymateb iddi.

Yn unol â chanllawiau LlC, mae'r ALl yn gofyn i chi ymateb i'n cyswllt. Os bydd rhieni'n dewis peidio â rhoi gwybodaeth i'r ALl am yr addysg a ddarperir gartref, yna bydd yn rhaid i'r ALl ystyried a yw'n ymddangos bod y rhieni'n cyflawni'u dyletswyddau.

O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas.

Os yw'n ymddangos nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg addas, gall yr ALI gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rhiant ddarparu tystiolaeth bod y plentyn yn derbyn addysg addas. Os na dderbynnir ymateb o fewn 15 niwrnod gall yr ALI gyhoeddi gorchymyn mynychu'r ysgol i sicrhau addysg addas.

Os bydd y rhieni ar unrhyw adeg yn darparu gwybodaeth sy'n bodloni'r ALI bod addysg addas yn cael ei darparu, yna ni fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

Efallai y bydd angen rhywfaint o help a chefnogaeth ar rieni ac mae angen i'r ALI roi cyfle i rieni gyflwyno tystiolaeth o'r profiad dysgu y mae plentyn yn ei gael.

Er mwyn cyflawni'r nod o sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref yn derbyn addysg effeithlon ac addas, byddem yn annog cydweithio a chyfathrebu'n weddol reolaidd.

Amcan cyntaf yr ALI yw helpu rhieni i lwyddo yn yr hyn maent wedi penderfynu ei wneud.

Close Dewis iaith