Toglo gwelededd dewislen symudol

Rwy'n meddwl y cafwyd twyll

Os ydych chi, eich ffrind, neu aelod o'ch teulu yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud cyn gynted â phosib.

Dylech roi gwybod am dwyll i Action Fraud ar-lein yn www.actionfraud.police.uk/report_fraud (Yn agor ffenestr newydd) neu ar y ffôn 0300 123 2040.

Os oes trosedd ar waith ar hyn o bryd neu os ydych mewn perygl dylech ffonio'r heddlu ar 999.

Os ydych wedi colli arian, os oes rhywun wedi cael mynediad i'ch cyfrif, neu os ydych wedi gwneud taliadau gyda cherdyn debyd neu gredyd, bancio ar-lein, neu dalu â sieciau eich cam cyntaf yw cysylltu â'ch banc neu gwmni credyd.

Unwaith yr ydych wedi cysylltu ag Action Fraud bydd eich banc yn eich cynghori ar y cam nesaf.

Cofiwch, os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo:

  • peidiwch â gwneud unrhyw daliadau pellach i'r twyllwyr
  • peidiwch ag ateb e-byst neu lythyrau gan y twyllwyr
  • rhowch wybod i Action Fraud
  • cysylltwch â'ch banc neu ddarparwr cerdyn credyd. Efallai byddant yn gallu atal unrhyw daliadau neu dyniadau ariannol heb ganiatâd pellach o'ch cyfrif
  • Rhowch wybod am dwyll i Safonau Masnach Abertawe gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i rybuddio pobl eraill am dwyll posib.

Mae twyll yn datblygu'n fwyfwy soffistigedig, felly nid oes eisiau teimlo'n annifyr os ydych wedi dioddef o dwyll. Bydd rhoi gwybod am y twyll yn eich diogelu rhag twyll yn y dyfodol a helpu i ddweud wrth eraill am y twyll.