Sut mae'r awdurdod yn monitro cydymffurfiaeth gyda Safonau'r Gymraeg
Dull a camau gweithredu.
Dull | Camau gweithredu | Amserlenni |
---|---|---|
Cwynion corfforaethol | Cofnodir cwynion corfforaethol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau ac sy'n cynnwys y Gymraeg a / neu sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg gan y tîm cwynion corfforaethol, ar y cyd â chwynion a dderbynnir gan Gomisiynydd y Gymraeg. | Yn barhaus ac wedi'u cofnodi yn yr adroddiad blynyddol. |
Adran AD | Nodi gweithleoedd a swyddi lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol neu ddymunol (gan ddefnyddio'r Offeryn Asesu a'r Strategaeth a Sgiliau Cymraeg). | Wrth i swyddi gael eu hasesu, e.e. oherwydd swyddi gwag. |
Cyfarfodydd yr hyrwyddwyr | Codir unrhyw bryderon gan adrannau yng nghyfarfodydd yr hyrwyddwyr ar gyfer mynd i'r afael â nhw yn ogystal â phryderon y mae angen i Swyddog y Gymraeg eu rhaeadru i staff. Caiff e-byst sy'n cael eu hanfon at hyrwyddwyr eu hanfon at bob Pennaeth Gwasanaeth hefyd. | Cyfarfodydd bob 2-3 mis ac e-bostio'n amlach. |
Gwe-dudalennau'r cyngor | Archwllio'r holl we-dudalennau cyhoeddus | Bob chwe mis. |
Cyfryngau cymdeithasol | Monitro negeseuon Twitter a Facebook | Parhaus |
Ffôn | Monitro mewnol gan Swyddog y Gymraeg a Rheolwyr, e.e. ateb y ffôn yn Gymraeg, Peiriannau ateb gyda negeseuon Cymraeg. Staff derbynfeydd yn siarad Cymraeg. | Parhaus |
Meddalwedd | Monitro meddalwedd sy'n cydymffurfio â'r Safonau ar draws adrannau | |
Caffael | Ystyried y Gymraeg yn y broses dendro. | |
Hyfforddiant yn y Gymraeg | Monitro nifer a chanran y staff sydd wedi'i derbyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg i safonau penodol ar draws yr awdurdod ac yn unol ag adrannau a chyfarwyddiaethau. Monitro'r niferoedd sydd wedi cwblhau cyrsiau e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg. | |
Asesiadau effaith cydraddoldeb | Cynnwys y Gymraeg yn y broses Asesu Effaith Cydraddoldeb i sicrhau bod sylw teg yn cael ei roi i'r iaith mewn perthynas â phrif benderfyniadau'r awdurdod. | Pob Sgriniad AEC / adroddiad AEC llawn - parhaus. |
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 05 Hydref 2022