Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasgaru gweddillion ym mharciau, traethau a mannau agored Cyngor Abertawe

Gall gwasgaru gweddillion anwylyn fod yn ffordd ystyrlon o gofio amdano a dathlu ei fywyd. Mae Cyngor Abertawe'n cydnabod bod ein parciau a'n mannau agored yn aml yn arbennig o arwyddocaol i breswylwyr ac rydym yn deall bod teuluoedd efallai'n dymuno gwasgaru gweddillion yn yr ardaloedd hyn.

Nid ydym yn gwrthwynebu gwasgaru gweddillion ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, ar yr amod bod y weithred yn cael ei chyflawni mewn modd call, gofalusa pharchus, heb effeithio ar fwynhad eraill sy'n defnyddio'r lle. Nid oes angen caniatâd ymlaen llaw, ond gofynnwn yn garedig i chi wasgaru gweddillion yn unol â chanllawiau amgylcheddol a heb adael unrhyw ôl gweladwy.

Byddwch yn ymwybodol fod yn rhaid i Gyngor Abertawe barhau i gynnal ein parciau a'n mannau agored a gwneud newidiadau iddynt, gan gynnwys ardaloedd lle gallai gweddillion fod wedi'u gwasgaru. Dylid ystyried hyn wrth ddewis lleoliad.

Er mwyn helpu i warchod harddwch naturiol a hygyrchedd y mannau hyn, gofynnwn i chi ddilyn y canllawiau hyn:

  • Gwasgarwch weddillion yn denau dros ardal eang, i ffwrdd o brif lwybrau ac ardaloedd prysur.
  • Peidiwch â marcio'r ddaear gyda blodau, croesau, cerrig neu eitemau eraill. Ni chaniateir cofebion a byddant yn cael eu symud i sicrhau bod y lle'n parhau i fod ar agor ac yn gynhwysol.
  • Peidiwch â phlannu bylbiau, blodau neu goed yn yr ardal.
  • Dewiswch amser tawel pan fydd llai o bobl yn bresennol i sicrhau preifatrwydd a pharch.
  • Wrth wasgaru gweddillion ardraethau a reolir gan y cyngor,rhaid gwasgaru gweddillion islaw llinell y llanw.
  • Rhaid osgoi gwasgaru gweddillion mewn coetir hynafol neu'n uniongyrchol o dan goed, gan y gall gweddillion newid cemeg pridd a niweidio ecosystemau bregus. Archwilio coetiroedd hynafol Gŵyr - Abertawe)
  • Sylwer- mae'r canllawiau hynyn berthnasol i Barciau, Traethau a Mannau Agored a reolir gan Gyngor Abertawe'n unig. Efallai bydd gan berchnogion tir preifat wahanol weithdrefnau ar waith; ni allwn roi cyngor i chi mewn perthynas â hyn.

Rydym hefyd yn deall y gall fod rhai preswylwyr yn dymuno coffáu eu hanwyliaid mewn ffordd fwy parhaol a gweladwy. Mewn achosion o'r fath, rydym yn eich gwahodd i ystyried mentrau eraill fel Rhoddi neu fabwysiadu mainc Cyngor Abertawe. Mae'r rhaglen hon yn caniatáu i unigolion gyflwyno mainc er cof am rywun arbennig, gan ddarparu lle tawel i fyfyrio wrth gyfrannu at harddwch a hygyrchedd ein mannau cyhoeddus.

Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad wrth helpu ein parciau a'n mannau agored i barhau'n fannau tawel, naturiol a chroesawgar i bawb.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Medi 2025