Toglo gwelededd dewislen symudol

Prynu sedd wag ar fws cludiant ysgol

Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun gwerthu seddi sbâr disgresiynol.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn llai na nifer y lleoedd sydd ar gael yn y cerbyd, trefnir bod y seddi sbâr ar gael i'w prynu gan ddisgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim.

Mae gennym ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion sydd â hawl iddo. Lle nad yw disgyblion yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim, gallant wneud cais i brynu sedd sbâr ar fws ysgol.Trefnir bod y seddi sbâr hyn ar gael i ddisgyblion sy'n byw o fewn ardal ddalgylch yr ysgol ar sail y cyntaf i'r felin. Byddant ond yn cael eu cynnig i ddisgyblion sy'n byw y tu allan i'r dalgylch os ydynt ar gael. Ni all bysus gael eu dargyfeirio ac ni ellir ymestyn y llwybr i ddarparu ar gyfer y sawl sy'n prynu sedd ac ni allwn gynyddu maint y cerbyd.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn llai na nifer y lleoedd sydd ar gael ar y bws, trefnir bod y seddi sbâr ar gael i'w prynu gan ddisgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol am ddim.

Os yw nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant ysgol am ddim yn cynyddu ar unrhyw adeg, yna mae'n bosib y bydd angen i ddisgyblion sydd wedi talu i ddefnyddio sedd sbâr ildio'u seddi a rhoddir ad-ddaliad iddynt pan fyddant yn ildio'u pas.

Gellir gwneud ceisiadau drwy gydol y flwyddyn, er mae ffi sefydlog.  Ar ôl i leoedd am ddim gael eu dyrannu, neilltuir seddi sbâr ar sail y cyntaf i'r felin.

Gwybodaeth bwysig 

Gweithredir y rhan fwyaf o'n contractau ysgol gan goetsis a choetsis mini gyda mwy na 22 o seddi i deithwyr.Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi dweud wrthym, o 1 Ionawr 2020, os caiff seddi eu gwerthu ar wasanaethau cludiant ysgol ac mae gan y cerbydau hynny fwy na 22 o seddi i deithwyr, fod yn rhaid i nifer o nodweddion ychwanegol gael eu gosod yn y cerbydau hyn i gynorthwyo hygyrchedd, gan gynnwys lifft i gadeiriau olwyn.Ehangodd yr Adran Drafnidiaeth y dyddiad cau dros dro, ond rydym bellach wedi gorfod dod i'r casgliad nad yw hi'n bosib gwerthu seddi sbâr ar wasanaethau cludiant ysgol sy'n cael eu gweithredu gan gerbydau sydd â mwy na 22 o seddi i deithwyr.

Ffi

Blwyddyn academaidd 2024 / 2025

£606.00

Y gwasanaethau sydd ar gael

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 / 2025, bydd ond yn bosib gwerthu seddi sbâr ar y gwasanaethau canlynol, yn amodol ar argaeledd, sy'n cael eu gweithredu gan gerbydau gyda 22 sedd i deithwyr neu lai:

Y gwasanaethau sydd ar gael
Rhif gwasanaethYsgol a wasanaethir
613Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
334Ysgol Gynradd Pontarddulais
818Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
816Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
688 YGG Bryn y mor
839YGG Gellionnen
682YGG Llwynderw
685YGG Llwynderw
342YGG Pontybrenin
661YGG Y Login Fach
374Ysgol Gyfun Gwyr

Cais i brynu sedd wag ar fws contract cludiant ysgol

Os hoffech chi dalu am sedd wag ar lein, cwblhewch y ffurflen hon.

Cwestiynau cyffredin am werthu seddi gwag ar gludiant ysgol

Cwestiynau cyffredin am Gynllun Gwerthu Seddi Sbâr y cyngor.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Medi 2024