Toglo gwelededd dewislen symudol

Seremonïau Dinasyddiaeth

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd 18 oed neu'n hŷn, a dderbynnir ar gyfer dinasyddio fel Dinasyddion Prydeinig, gymryd rhan mewn Seremoni Ddinasyddiaeth.

Yn ystod y seremoni, bydd yn ofynnol i chi dyngu llw neu ddatganiad ac addo'ch teyrngarwch i'r Frenhines.

Pan gewch eich llythyr gwahodd gan y Swyddfa Gartref, dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru, cyn gynted ag y bo modd i drefnu mynd i seremoni. Ar ddydd y seremoni, mae'n rhaid i chi ddod â phrawf adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru, yn ogystal â'ch llythyr gwahodd.

Cefn Bryn Room

Cynhelir Seremonïau Dinasyddiaeth yn Ystafell Cefn Bryn yn y Ganolfan Ddinesig unwaith y mis fel arfer. Arweinir y seremoni gan yr Uwch-gofrestrydd ac mae arweinwyr dinesig lleol fel arfer yn bresennol i'ch croesawu fel dinesydd newydd. Cyflwynir eich tystysgrif a rhodd fach i chi gofio'r achlysur. Cewch y cyfle i gael ffotograff gyda'r arweinwyr dinesig gan ffotograffydd proffesiynol. Ar ôl y seremoni, byddwch yn gallu cael lluniaeth a chwrdd â dinasyddion newydd eraill.

Seremonïau Dinasyddiaeth Unigol

Os na allwch fynd i seremoni grŵp neu os hoffech gael seremoni ddinasyddiaeth bersonol, gellir trefnu hyn am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2023