Seremoni enwi
Mae'r Diwrnod Enwi'n dathlu genedigaeth baban newydd neu ffordd arbennig o groesawu plentyn neu blant i deulu newydd. Mae'n gyfle i rieni wneud addewid cyhoeddus o gariad ac ymrwymiad i'r plentyn.
Gallwch ddewis gwahodd oedolion cefnogi a fydd yn chwarae rôl arbennig ym mywyd y plentyn. Gall mamguod a thadcuod gael y cyfle hefyd i wneud addewid o gefnogaeth i'r rhieni a'r plentyn.
Gallwch greu dathliad unigryw gyda geiriau, darlleniadau a cherddoriaeth a byddwch yn cael tystysgrif goffaol.
Cynhelir seremoni diwrnod enwi yn y Ganolfan Ddinesig neu mewn un o'r lleoliadau cymeradwy yn Abertawe. Cysylltwch â ni am unrhyw wybodaeth neu i gael gwybod am ffïoedd.
Sylwer mai dathliad yn unig yw'r seremonïau hyn. Nid oes unrhyw sail gyfreithiol i unrhyw dystysgrif goffaol a roddir.