Toglo gwelededd dewislen symudol

Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe

I arddangos ymrwymiad Cyngor Abertawe i ddod yn Abertawe Sero-net, cymeradwywyd Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe yng nghyfarfod y cyngor ar 3 Rhagfyr 2020.

Mae'r Siarter yn nodi'n hymrwymiad i weithio tuag at ddod yn sefydliad sero-net drwy

  • ymrwymo i weithio tuag at ddod yn sefydliad sero-net erbyn 2030
  • cymryd camau i ateb her yr argyfwng hinsawdd
  • gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu strategaeth
  • cynnwys rhanddeiliad gan gynnwys plant a phobl ifanc mewn trafodaethau i feithrin ymddiriedaeth.

Mae Arweinydd Cyngor Abertawe ac Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol wedi llofnodi'r Siarter. Nesaf bydd y Cynghorwyr a'r Swyddogion Allweddol yn ymrwymo i'r Siarter yn gynnar yn 2021.

Mae Cyngor Abertawe'n cymryd camau eang fel sefydliad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ond, os rydym am gyflawni'n huchelgais gyffredinol i ddod yn Ddinas a Sir Abertawe Sero-net erbyn 2050, bydd angen i ddinasyddion, busnesau, y gymuned, sefydliadau gwirfoddol a'n sefydliadau partner oll chwarae eu rhan.

Ein nod yw arwain drwy esiampl a herio dinasyddion, busnesau a sefydliadau partner i wneud eu hymrwymiadau eu hunain ar ffurf Siarter Newid yn yr Hinsawdd Abertawe ehangach.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2024