Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gymraeg

Mae'r strategaeth yn cwmpasu dau brif faes gweithredu - y gymuned a'r awdurdod.

Mae'r gymuned yn cyfeirio at dasgau a mentrau y gall y cyngor eu defnyddio (ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth) i nodi a meithrin gweithgareddau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r cyngor â'r nod o leiaf gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

  • Bydd tasgau cychwynnol yn nodi'r waelodlin y byddwn yn mesur cynnydd yn ei erbyn.
  • Bydd tasgau parhaus yn datblygu, yn cefnogi ac yn monitro mentrau yn y maes hwn.

Mae'r awdurdod yn cyfeirio at gamau gweithredu o fewn y cyngor yn benodol.

  • Mae tasgau rheoleiddiol yn ymdrin â'r Safonau a sut y cânt eu dehongli a'u gorfodi.
  • Mae tasgau cefnogol yn rheoli'r isadeiledd i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol - gallai rhai o'r adnoddau hyn fod o ddefnydd yn y gymuned hefyd.

Llunnir adroddiad blynyddol a fydd yn cwmpasu'r ddau faes uchod ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y safonau.

Disgrifir tasgau (gydag amserlenni cychwynnol arfaethedig) ar ôl y diagramau llif ar gyfer y gymuned a'r awdurdod. Bydd gweithgareddau'n amrywio yn ystod y strategaeth yn unol â phrofiad a chanlyniadau monitro.

1.  Pennu ffigurau gwaelodlin

Mae gofyniad i gynnal neu gynyddu nifer neu ganran y siaradwyr Cymraeg dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y gweithgaredd hwn yn darparu'r ffigurau gwaelodlin i alluogi'r gymhariaeth. Bydd y ffigurau'n deillio o ffynonellau swyddogol presennol, e.e. y Cyfrifiad, StatsCymru

I'w roi ar waith ym mis Hydref 2016

2.  Gwerthuso demograffig lleol

Caiff y ffigurau gwaelodlin eu mireinio (fel lleiafswm) i ffigurau perthnasol ar gyfer pob ward etholiadol. Lle mae wardiau'n cwmpasu ardal ddaearyddol eithaf mawr, mae'n bosib y bydd rhaid rhannu hyn ymhellach.

I'w wneud fel rhan o'r dasg uchod.

3.  Nodi adnoddau cymunedol

Bydd y gweithgaredd hwn yn pennu lefel bresennol yr adnoddau cymunedol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cesglir yr wybodaeth gan sefydlaidau Cymraeg presennol yn ogystal â chan eu haelodau a fydd yn gallu nodi clybiau, grwpiau, busnesau ac eraill lle y cyfathrebir drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf neu, ar gyfer busnesau, lle mae'r Gymraeg ar gael neu'n cael ei siarad y rhan fwyaf o'r amser.

Ar waith o fis Hydref tan fis Ionawr 2017

4.  Mapio adnoddau i ardaloedd

Caiff yr adnoddau a nodir uchod eu mapio'n ddaearyddol fel y gellir mesur argaeledd lleol gwasanaethau.

Parhaus - i ddechrau o fis Hydref 2016 tan fis Ionawr 2017

5.  Nodi mannau cryf / diffygion

Bydd yr ymarfer uchod yn nodi'r ardaloedd hynny lle mae adnoddau cyfrwng Cymraeg yn fwy tebygol o fod ar gael, yn ogystal ag ardaloedd eraill lle mae adnoddau'n brin.

Parhaus - gan ddechrau ym mis Ionawr 2017

6.  Datblygu camau gweithredu cefnogol

Yn unol â'r wybodaeth a gesglir uchod, a thrafodaethau gyda siaradwyr Cymraeg lleol, dysgwyr Cymraeg a phartion eraill â diddordeb (ysgolion cyfrwng Cymraeg, CRhA etc.) nodi camau gweithredu addas i'w rhoi ar waith i annog a chefnogi' defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.

Parhaus - gan ddechrau ym mis Ionawr 2017

7.  Monitro adnoddau sydd ar gael

Bydd hwn yn weithgaredd parhaus a fydd yn derbyn gwybodaeth am adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd, diwygiedig neu rai a gollwyd yn y gymuned. Bob blwyddyn, cysylltir â phob adnodd a fydd wedi'i gofnodi ar y pryd a bydd yn rhaid cael ymateb cadarnhaol gan bob un er mwyn iddo barhau yn y cyfeiradur.

Parhaus o fis Ionawr 2017 - yn ogystal â diweddariad blynyddol

8.  Diweddaru'r waelodlin

Diweddaru gwybodaeth ddemograffig gydag unrhyw adnoddau newydd sydd ar gael. Ailddosbarthu'r data wedi'i fapio. Bwydo unrhyw newidiadau i adroddiad blynyddol.

Bob blwyddyn o fis Mawrth 2018

9.  Adrodd ar gynnydd

Bydd fersiwn gychwynnol yr adroddiad hwn yn darparu'r ffigurau gwaelodlin y gellir mesur cynnydd yn y dyfodol yn eu herbyn. Bydd frsiynau yn y dyfodol yn dangos ffigurau wedi'u diweddaru (pan fyddant ar gael) gan fanylu ar newidadau ac amlygu tueddiadau. Bydd yr adroddiad hefyd yn disgrifio mentrau cymunedol a rhai gan y cyngor - rhai presennol a rhagamcanol - ac yn disgrifio'r adnoddau cyfrwng Cymraeg amrywiol a nodir yn y gymuned. Bydd figurau blynyddol gan yr awdurdod, fel sy'n ofynnol yn ôl y safonau, yn cael eu cynnwys.

Bob blwyddyn o fis Mawrth 2017

A.  Cyd-drafod â'r comisiynydd

Ymateb i gyfathrebiadau o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. trosglwyddo cwestiynau ac ymholiadau ynghylch dehongli'r safonau i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a rhaeadru ymatebion. Adrodd fel sy'n ofynnol yn ôl y safonau a ddiffiniwyd.

Ad hoc - parhaus

B.  Dehongli safonau

Ateb cwestiynau gan adrannau mewn perthynas â'r safonau a'u dehongli. Cyd-drafod gydag awdurdodau a chyrff cyhoeddus eraill er mwyn dangos undod lle y bo'n bosib.

Ad hoc - parhaus

C.  Cynghori ar y safonau

Llunio a dosbarthu dogfennau perthnasol (canllawiau defnyddiol, etc.) Cyd-drafod gyda Hyrwyddwyr y Gymraeg i rannu gwybodaeth ac arfer da.

Annog a hwyluso cydymffurfio

Ch. Gorfodi'r safonau

Hyrwyddo aterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg a'u cynnwys yng nghamau cynharaf unrhyw fenter. Rhagdybio problemau gyda chydymffurfio. Cyfeirio meysydd cwynion, problemau a sylwadau a allai fod yn berthnasol iddynt. Arfanu rheolwyr a phobl berthnasol eraill o ddatblygiadau allanol.

Parhaus - Jan 2017

D.  Nodi sgiliau presennol

Mae angen (ail-)holi aelodau staff i asesu eu sgiliau Cymraeg. Bydd rhaid i feysydd gweithredu fesur lefelau sgiliau a gallu eu tîm i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.

Ad hoc - parhaus.

Dd. Datblygu deunyddiau cefnogi

Canllawiau Defnyddiol; Cyfieithiadau safonol; Arfer da; Dosbarthiadau Cymraeg. Unrhyw beth a geisir gan aelodau staff neu Hyrwyddwyr y Gymraeg, neu a nodir drwy brofiad ymarferol neu gan y Comisynydd.

Ad hoc - parhaus

E.  Cefnogi sgiliau

Cyflwyniadau ar safonau a sut maent yn gweithio; Sesiynau sefydlu a chyrsiau DPP; Ymweliadau / sgyrsiau ag adrannau; Sesiynau 'sgwrsio' a chyngor galw heibio yn ystod amser cinio.

Ad hoc - parhaus

F.  Datblygu sgiliau

Hyrwyddo'r iaith yn fewnol (StaffNet a mannau eraill). Hyrwyddo dosbarthiadau Cymraeg. Datblygu rhestr fewnol o dermau. Cefnogi dulliau waith sy'n cydymffurfio â'r safonau. Hwyluso cydweithrediad rhwng adrannau ac ar draws diwylliannau.

Ad hoc - parhaus

G.  Adrodd blynyddol

Wedi'i gynnwys fel rhan o 'adroddiad y gymuned' ar gynnydd (uchod).

Bob blwyddyn o fis Mawrth 2017