Sut mae dewis gwasanaeth gofal plant
Cysylltwch â chymaint o ddarparwr gofal plant â phosibl cyn penderfynu ar yr un gorau i chi a'ch plentyn.
Hefyd, gofynnwch i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) pa ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd)
Gallai'r cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol wrth ystyried beth sy'n bwysig i chi mewn gwasanaeth gofal plant:
- A yw'r gwasanaeth yn groesawus?
- A yw'n lle sy'n mynd i ysgogi plant?
- Pa gyfleusterau sydd yno?
- A yw'n ofalgar?
- Beth am y staff?
- A yw'r gofal plant ar gael yn ystod oriau addas i'ch anghenion chi?
- A ydynt yn darparu bwyd, clytiau ac ati neu a fydd gofyn i chi eu darparu?
- Beth yw'r gost?
- A oes lle ar gael i'ch plentyn?
Ar ôl i chi ddod o hyd i wasanaeth gofal plant wrth eich bodd, rhowch gynnig ar gyfnod setlo, gyda rhai ymweliadau byr i chi a'ch plentyn. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus a thawel eich meddwl.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol sy'n hyrwyddo hawliau dynol plant dan 18 oed. Mae gan bob un sy'n gofalu am blant neu sy'n gweithio gyda phlant swyddogaeth i'w chwarae i gydnabod hawliau plant a'u cynorthwyo i gyflawni eu potensial fel unigolion. Gyda'i gilydd, mae holl erthyglau Erthyglau CCUHP wedi'u symleiddio (Yn agor ffenestr newydd) yn cyfrannu at sicrhau bod plant yn cael eu diogelu, eu meithrin a'u trin â pharch. Mae CCUHP hefyd yn cydnabod ac yn cefnogi swyddogaeth rhieni wrth fagu eu plant.