Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin - Gorseinon
Ardaloedd eraill a gynhwysir yn y swyddfa hon: Pontarddulais, Tal y Bont, Pontlliw, Dwyrain Dulais, Pengelli, Penyrheol, Gorseinon Canol a Dwyrain Gorseinon, Pontybrenin, Tre-gŵyr, Casllwchwr Isaf, Casllwchwr Uchaf, Penllergaer, Waunarlwydd, Dyfnant, y Crwys, Sgeti, Trecastell, Rhosili, Reynoldston, Penclawdd, Penmaen/Parkmill, Cilâ Uchaf, Llandeilo Ferwallt/Murton, Gogledd-orllewin Gŵyr, West Cross a Boarspit.
Caiff yr ardaloedd hyn hefyd eu gwasanaethu gan: Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin - Sgeti
Cyfleusterau
Mae gan bob un o'n swyddfeydd tai:
- rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig
- dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd
- cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu
- ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau
- arwyddion cyffyrddol
Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd galw heibio un o'n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliadau cartref. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.
Oriau Agor
Dydd Mawrth: 1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher: 9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau: 1.00pm - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener: 9.00am - 1.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)