Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Deddf Cydraddoldeb 2010 gwybodaeth i yrwyr tacsis

Fel gyrrwr tacsi dylech ddarparu gwasanaeth i bob cwsmer, gan gynnwys y rheini â chadair olwyn, problemau symudedd neu'r rheini y gall fod angen help arnynt. Dylech helpu unrhyw deithwyr y mae angen help arnynt ac ni allwch wrthod eu gyrru na chodi ffi uwch arnynt.

Daw'r rheoliadau hyn o dan adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. O dan adran 167 o'r un Ddeddf, rydym yn cadw rhestr o 'gerbydau dynodedig' sef y rhai sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Rydym yn diweddaru'r rhestr hon bob mis.

Os ydych yn gyrru cerbyd dynodedig, bydd y dyletswyddau canlynol yn berthnasol:

  • cludo teithiwr pan fydd yn ei gadair olwyn
  • peidio â chodi tâl ychwanegol am wneud hynny
  • cario'r gadair olwyn os yw'r teithiwr yn dewis eistedd yn sedd y teithiwr
  • cymryd camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn rhesymol gysurus
  • rhoi cymorth symudedd i'r teithiwr fel sy'n rhesymol ofynnol:
    • galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd
    • os yw'r teithiwr yn dymuno aros yn y gadair olwyn, galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd wrth iddo aros yn y gadair olwyn
    • llwytho bagiau'r teithiwr i mewn ac allan o'r cerbyd
    • os nad yw'r teithiwr am aros yn y gadair olwyn, llwytho'r gadair olwyn i mewn ac allan o'r cerbyd
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Gorffenaf 2024