Tai fforddiadwy
Cartrefi sydd ar gael i'w rhentu neu eu prynu am brisiau is na phrisiau'r farchnad.
Ceir 3 math o gartref fforddiadwy:
- Rhent cymdeithasol yw tai i'w rhentu a ddarperir gennym (y cyngor) neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai) lle mae'r lefelau rhent yn is na rhent y farchnad, yn unol â rhenti arweiniol a meincnod Llywodraeth Cymru.
- Rhent Canolradd yw tai lle mae'r rhent yn uwch na rhenti tai cymdeithasol a rentir ond yn is na rhenti tai'r farchnad.
- Gwerthiant Canolradd yw tai i bobl sy'n gallu cael morgais ond na allant fforddio eiddo addas ar y farchnad agored. Mae tai canolradd ar werth am bris is na phris y farchnad.
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2021