Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai rhentu preifat

Mae'r galw am lety gan y cyngor a chymdeithasau tai yn drwm ac mae'r amserau aros am gartrefi mewn sawl ardal yn hir iawn. Felly, byddai'n syniad i chi ystyried rhentu yn y sector preifat.

Dylech wirio'r lefelau rhent a hyd y denantiaeth cyn symud i mewn. Efallai mai rhentu gan landlord preifat fydd yr unig opsiwn i nifer o bobl, yn enwedig os ydych chi am fyw mewn ardaloedd lle nad oes fawr ddim tai cyngor neu dai cymdeithas tai. 

Dyma rai syniadau os ydych yn chwilio am gartref preifat ar rent:

  1. Y rhyngrwyd - mae llawer o wefannau a allai eich helpu i gael lle i fyw. Mae gwefannau newydd yn cael eu creu'n rheolaidd ac mae defnyddio peiriant chwilio hefyd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw. Yn ogystal â gwefannau asiantaethau gosod a landlordiaid, gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion pobl eraill sy'n ceisio rhentu neu rannu ty ar flogiau'r rhyngrwyd a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
     
  2. Papurau lleol - mae'r Evening Post yn cyhoeddi atodiad eiddo bob wythnos. Mae copïau ar gael gan Opsiynau Tai, asiantaethau gosod, siopau ac archfarchnadoedd.
     
  3. Hysbysfyrddau - cardiau wedi'u gosod ar hysbysfyrddau siopau papur newydd sy'n hysbysebu fflatiau neu ystafelloedd ar rent ar ben rhatach y farchnad.  Dylech grwydro'r ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi yn aml.
     
  4. Undeb myfyrwyr neu goleg - os ydych yn fyfyriwr, mae'n bosib y bydd eich coleg yn gallu eich helpu i ddod o hyd i le i aros. Cysylltwch â'ch undeb myfyrwyr neu'ch swyddog llety.
     
  5. Asiantaethau llety neu osod - mae asiantaethau llety yn gosod ac yn rheoli ystafelloedd, fflatiau a thai ar ran landlordiaid preifat. Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau'n hysbysebu yn y papurau, Yellow Pages a'r Thomson Directory.
     
  6. Gair llafar - mae'n ddigon cyffredin i bobl glywed am ystafelloedd neu fflatiau drwy air gan ffrindiau neu gydweithwyr, felly byddai'n syniad i ddweud wrth bobl eich bod yn chwilio.
     
  7. Bwrdd bondiau - os oes angen help arnoch i godi'r arian ar gyfer blaendal neu fond, mae'n bosib y cewch help gan Fwrdd Bondiau Abertawe. Gall y Bwrdd Bondiau gynnig tystysgrif gwarantu i landlordiaid yn lle blaendal. Gellir cysylltu â'r Bwrdd Bondiau ar 01792 533139.

Mae'r Is-adran Tai ac Iechyd Cyhoeddus yn sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal a'u gwella yn y sector tai rhent preifat: Landlordiaid, perchnogion tai a thenantiaid preifat

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2021