Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Taith gerdded (fer) LC

Pellter: 0.8 milltir /1.3km

Mae hon yn daith gerdded fer hyfryd sy'n eich galluogi i werthfawrogi glannau bywiog Abertawe yn eu holl ysblander ac yn daith gerdded hamddenol ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr. Mae palmant ar hyd y llwybr ac mae'r llwybr yn wastad. Mae'r bont gerddwyr dros y marina'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Mae lluniaeth a thoiledau ar gael gerllaw.

Man dechrau a gorffen

O flaen yr LC

Sut i gyrraedd

Mae lleoedd parcio ger y man dechrau ac mae safle bws y Cwadrant gerllaw

Cyfleusterau

Mae lluniaeth a thoiledau ar gael gerllaw.

Taith gerdded (fer) LC (PDF, 255 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023