Taith gerdded Mayhill
Pellter: 1.1 milltir /1.8km
Mae hon yn daith gerdded fwy heriol gyda llethr serth ar y llwybr, ond cewch eich gwobrwyo gyda golygfeydd godidog o'r ddinas ac ardal y dociau. Mae'r daith ar lwybrau cerdded yn bennaf gydag un darn dros lwybr rwbel. Mae angen croesi sawl ffordd.
Man dechrau a gorffen
Canolfan Gymunedol Mayhill
Sut i gyrraedd
Lleoedd parcio ger y man dechrau a safle bws gerllaw
Cyfleusterau
Dim toiled ar y ffordd
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023