Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Taith Gerdded Pen-clawdd

Pellter: 2 milltir /3.2km

Ac yntau ar un adeg yn borthladd ffyniannus, câi Penclawdd ei ystyried yn ganolfan fasnachol brysur yng ngogledd Gŵyr. Heddiw, mae'r pentref yn dal i gael ei ystyried yn gymuned bysgota a chasglu cocos, yn falch o'i threftadaeth hirsefydlog. Mae'r daith gerdded hon yn rhoi cyfle i chi fwynhau golygfeydd bendigedig dros foryd Llwchwr a'r ardal wledig o'i chwmpas. Mae'r llwybr hwn yn wastad ac ar lwybr palmentog. Gall fod yn brysur felly byddwch yn ymwybodol y bydd cerddwr a beicwyr eraill o gwmpas. Mae toiledau a lluniaeth ar gael ar ddechrau'r llwybr a gerllaw.

Man dechrau a gorffen

Archfarchnad CK's, Pen-clawdd

Sut i gyrraedd

Lleoedd parcio ger y man dechrau a safle bws gerllaw

Cyfleusterau

Mae toiledau a lluniaeth ar gael ar ddechrau'r llwybr a gerllaw.

Taith Gerdded Pen-clawdd (PDF, 221 KB)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023