Taith gerdded Townhill
Pellter: 1.5 milltir /2.4km
Mae'r daith gerdded hon yn rhoi cyfle i chi weld un o'r golygfeydd panoramig gorau o Fae Abertawe o un o'r mannau uchaf yn y ddinas. Mae'n daith weddol heriol gyda rhai llethrau graddol a man gorffwys ar y llwybr. Mae palmant ar hyd y llwybr ac mae'n rhaid croesi nifer o ffyrdd.
Man dechrau a gorffen
Canolfan Gymunedol Townhill
Sut i gyrraedd
Lleoedd parcio ger y man dechrau a safle bws gerllaw
Cyfleusterau
Dim toiled ar y ffordd
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023