Taliadau llyfrgell a thalu ar-lein
Taliadau am gadw eitemau, dychwelyd llyfrau'n hwyr a gwasanaethau llyfrgell eraill. Gallwch hefyd dalu am argraffu a chopïo ar-lein.
Bydd yn rhaid talu dirwyon ar gyfer benthyciadau llyfrgell hwyr o 2 Ebrill 2023. Bydd unrhyw eitemau sydd ar fenthyg ar ôl y dyddiad hwnnw ac sydd heb eu dychwelyd neu eu hadnewyddu erbyn eu dyddiad dychwelyd yn destun dirwy. Codir ffïoedd hwyr ar bob benthyciad newydd ar ôl y dyddiad hwn hefyd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag unrhyw un o lyfrgelloedd Abertawe.
Gallwch dalu ag arian parod ym mhob llyfrgell a chyda cherdyn credyd/debyd yn Llyfrgell Ganolog Abertawe, Llyfrgell Ystumllwynarth, Llyfrgell Gorseinon a Llyfrgell Treforys.
Mae llyfrau, llyfrau sain a DVDs i gyd i'w benthyca am ddim.
Ffïoedd ar gyfer dychwelyd llyfrau, llyfrau llafar a DVDs yn hwyr (fesul eitem)
Oedolion - 20c y dydd (uchafswm o £5)
Dinasyddion hŷn a PTL - 10c y dydd (uchafswm o £2.50)
Neilltuo
Ar gael yn stoc Llyfrgelloedd Abertawe - dim tâl
Trwy'r cynllun partneriaeth lleol - dim tâl (amodol ar y polisi defnydd teg)
Ddim mewn stoc (Benthyciad rhwng llyfrgelloedd a newydd) - £10
Ddim mewn stoc (Benthyciad rhwng llyfrgelloedd a newydd) pensiynwyr a PTL - £8
Llungopïo/argraffu ar argraffydd microffilm - talu ar-lein
Du a gwyn - 25c fesul tudalen
Lliw - 80c fesul tudalen
Sgan A3/A4 (wedi'i argraffu, ei anfon drwy e-bost neu drwy'r post) - £2.75 y llun yn ogystal â phostio a phacio
Stoc wedi'i thynnu yn ôl - prisiau unigol
Ffyn data - £6 yr un
Clustffonau - £1.50 yr un
Nwyddau - prisiau unigol
Hurio ystafelloedd - holwch
Ymholiadau Mynegai Cambrian - prisiau unigol
Gwasanaethau ymchwil a ffïoedd - £17.50 am bob 30 munud*
*Sylwer: ni chodir tâl am ymholiadau sy'n cymryd llai na hanner awr i'w hateb, er gellir codi tâl am unrhyw eitemau a ddarperir sydd wedi'u llungopïo neu eu hargraffu.
Gellir codi tâl ymchwil o £17.50 am bob hanner awr ar gyfer ymholiadau sy'n cymryd rhwng hanner awr a'r mwyafswm o ddwy awr o amser staff er mwyn ymchwilio ac ateb, gyda chost postio wedi'i ychwanegu lle bo'n briodol. Ni allwn gwblhau ymchwil manwl.
Ffoniwch staff cyfeirio'r llyfrgell ar 01792 636464 os hoffech drafod eich gofynion.