Talu am ofal preswyl
Bydd faint byddwch chi'n ei dalu am ofal preswyl yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion ac asesdau eraill.
Os oes llai na £50,000 gennych mewn cynilion neu asedau cyfalaf eraill (gan gynnwys eich cartref), a bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cytuno mai symud i gartref preswyl yw'r ffordd orau o ddiwallu eich anghenion gofal, yna dylech ofyn am asesiad ariannol. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr asesiad, mae'n bosib y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu cyfrannu at gost ffioedd eich cartref gofal.
Hunan-ariannwyr
Os yw eich asedau cyfalaf yn fwy na £50,000, fel arfer byddwch yn gorfod talu am gost lawn ffioedd eich cartref gofal. Cyfeirir at y bobl hyn fel 'hunan-ariannwyr'.
Os ydych yn berchen ar eich cartref
Os ydych yn berchen ar eich cartref, efallai byddwn yn ystyried ei werth o'r adeg rydych yn dod yn breswylydd parhaol yn y cartref gofal. Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Er enghraifft, os yw eich partner neu berthynas oedrannus neu'n ddifrifol anabl yn dal i fyw yno, byddwn yn anwybyddu gwerth y cartref ac ni fydd disgwyl i chi ei werthu. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol os bydd aelodau eraill o'ch teulu'n byw yno, ond byddwn yn penderfynu ar hyn ar sail amgylchiadau unigol. Ceir gwybodaeth fanylach ynghylch hyn ar ein tudalen bod yn berchen ar eich cartref eich hun a gohirio taliadau.
Ffïoedd ychwanegol neu daliadau trydydd parti
Mae rhai cartrefi gofal annibynnol yn codi ffioedd sy'n uwch na'r uchafswm y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu ei gyfrannu.
Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at ffioedd eich cartref gofal, ac rydych yn dewis symud i gartref lle mae'r ffioedd yn uwch, bydd rhywun, perthynas fel arfer, yn gorfod talu'r gwahaniaeth rhwng y ddau swm - y 'ffioedd ychwanegol' neu 'taliadau trydydd parti' - yn uniongyrchol i'r cartref.
Nid yw'r person sy'n byw yn y cartref fel arfer yn cael talu'r ffioedd ychwanegol. Y rheswm am hyn yw bod y person hwnnw wedi cael asesiad ariannol ac yn cyfrannu cymaint ag y mae rheolau'r llywodraeth am dalu ffioedd cartref gofal yn dweud ei fod yn gallu fforddio.
Yr uchafswm y byddwn yn ei dalu tuag at ofal mewn cartref a weithredir yn annibynnol
Rydym yn rhoi terfyn ar swm yr arian y byddwn yn ei dalu tuag at ofal mewn cartref a redir yn annibynnol. Mae'r ffioedd a godir mewn cartrefi preswyl a redir yn annibynnol yn amrywio o gartref i gartref.
Yn 2024/2025, yr uchafswm ffioedd y byddwn yn ei gyfrannu at gartrefi gofal yn Ninas a Sir Abertawe yw:
- Gofal (personol) preswyl i bobl hyn: £848 yr wythnos
- Gofal nyrsio cyffredinol (gan gynnwys yr elfen gofal personol): £888 yr wythnos
- Gofal nyrsio dementia (gan gynnwys yr elfen gofal personol): £937 yr wythnos.
Os ydych am symud i gartref yn Ninas a Sir Abertawe sy'n codi mwy na hyn, bydd rhaid i chi drefnu i rywun arall (fel perthynas) dalu'r gwahaniaeth drwy'r hyn a elwir yn Taliadau trydydd parti ychwanegol (taliadau ychwanegol), cyfeirir at hyn weithiau fel taliadau 'ychwanegol'.
Os ydych am symud i gartref sydd y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe, yn gyntaf, bydd angen i ni ddarganfod y cyfraniad arferol ar gyfer y categori gofal hwnnw a delir gan yr Awdurdod Lleol yn yr ardal honno. Yna byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno i gyfeirio'n cyfraniad ni, ond ni fyddwn yn talu mwy na'r gyfradd gyfatebol a delir am gartrefi yn ardal Abertawe.
Gofal iechyd parhaus y GIG
Os oes gennych anghenion gofal iechyd hir dymor, cymhleth, dylai'r tîm sy'n ymwneud â'ch gofal, gan gynnwys y gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, ystyried a ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyster ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer hwn, yna ni chodir tâl am wasanaethau sy'n diwallu eich anghenion gofal personol neu iechyd. Gellir darparu hwn mewn unrhyw leoliad e.e. yn eich cartref, mewn cartref gofal neu mewn ysbyty. Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch parhau â gofal iechyd y GIG gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: gwybodaeth y GIG am barhau â gofal iechyd (Yn agor ffenestr newydd).