Talu PCN / dirwy barcio
Os ydych wedi derbyn Hysbysiad o Dâl Cosb, gallwch dalu'ch dirwy ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post.
Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio Ni fydd swm y gosb yn cynyddu wrth i'ch apêl gael ei hystyried.
Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio'n system dalu. Bydd angen i chi ddewis 'Hysbysiadau o Dâl Cosb' ar y rhestr 'Math o Daliad' ar ochr chwith y sgrîn dalu. Nodwch rif y PCN neu'r cyfeirnod tâl ychwanegol yn y blwch cyfeirio. Bydd y PCN yn dechrau gyda WJ.
Talu dirwy barcio ar-lein Talu dirwy barcio ar-lein
Trosglwyddiad banc
Ni ellir gwneud trosglwyddiad banc os yw eich achos / achosion gydag asiant gorfodi. Bydd costau ychwanegol yn berthnasol ac mae'n rhaid i chi ddelio â nhw'n uniongyrchol.
Gallwch dalu eich bil yn syth i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu eich rhif PCN neu'ch cyfeirnod tâl gormodol fel y gallwn ddyrannu'ch taliad i'ch cyfrif:
Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF
Côd Didoli 30-00-00
Rhif y Cyfrif 00283290
Talu dros y ffôn
Mae gwasanaeth ffôn awtomatig yn rhedeg 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos a chodir tâl ar y gyfradd leol. I wneud taliad ffoniwch 0300 456 2775 (Cymraeg) neu 0300 456 2765 (Saesneg). Bydd angen i chi ddweud wrthym eich rhif PCN neu'ch cyfeirnod tâl gormodol a'ch manylion cerdyn debyd neu gredyd.