
Teithio i Abertawe
Mae teithio i Abertawe a Gŵyr yn hawdd ac yn cymryd ychydig dros dair awr o Lundain ar y trên neu yn y car.
Gallwch gael gwybod sut i gyrraedd Abertawe drwy gysylltu â Traveline Cymru - eich siop dan yr unto ar gyfer teithio yma ar fws, coets, trên, fferi neu awyren.
Ffoniwch 0871 200 22 33 neu ewch i wefan Traveline CymruYn agor mewn ffenest newydd.
Teithio mewn car
Ceir mynediad da i Abertawe o'r M4. Os ydych am fynd i ganol dinas Abertawe o gyfeiriad Caerfyrddin, mae'n well defnyddio cyffordd 47 ac o gyfeiriad Caerdydd, y ffordd hawsaf yw defnyddio cyffordd 42.
Mae 2 safle Parcio a Theithio yn Abertawe. Mae'r ddau'n cynnig mynediad da i Abertawe. Ceir gwybodaeth am barcio ceir yng nghanol y ddinas ar ein tudalennau parcio. Mae yna hefyd feysydd parcio o amgylch Gŵyr, y Mwmbwls, Treforys, Gorseinon a rhannau eraill o'r sir.
Gwybodaeth am drenau
Mae'r orsaf drenau agosaf ar y Stryd Fawr a gallwch gerdded yn hawdd oddi yno i ganol y ddinas. Mae gwasanaethau trenau cyflym First Great Western yn teithio o Lundain i Abertawe ac mae trenau Arriva Cymru yn teithio'n rheolaidd o orllewin Cymru, y Mers, canolbarth Lloegr a'r de-orllewin. Mae hefyd gorsafoedd lleol yn Nhregŵyr a Llansamlet.
Ffoniwch linell gymorth National Rail ar 08457 484950 neu ewch i wefan Ymholiadau National RailYn agor mewn ffenest newydd.
Gwybodaeth am fysus a choetsis
Os yw'n well gennych deithio ar fws, mae First Cymru yn gweithredu gwasanaeth gwennol rheolaidd o Gaerdydd i Abertawe a maes awyr Bryste. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu bob awr y tu allan i'r oriau brig a phob hanner awr yn ystod yr oriau brig. Mae coetsis National Express rheolaidd i Abertawe hefyd o brif drefi eraill de a gorllewin Cymru. Mae'r National Express hefyd yn cysylltu â meysydd awyr Llundain, Heathrow a Gatwick.
Ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i wefan Traveline CymruYn agor mewn ffenest newydd.
Y maes awyr agosaf
Y maes awyr rhyngwladol agosaf yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd - ffoniwch 01446 711111 neu ewch i wefan maes awyr CaerdyddYn agor mewn ffenest newydd.
Mae gan Abertawe ei maes awyr ei hun, sy'n addas ar gyfer awyrennau bach - ffoniwch 01792 204063.
Marina Abertawe
Os bydd angen angorfa ar gyfer eich cwch eich hun, ewch i Farina AbertaweYn agor mewn ffenest newydd neu ffoniwch 01792 470310 i gael yr wybodaeth lawn.
Llety yn Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Os ydych am ddod i'r ardal, ewch i wefan Croeso Bae AbertaweYn agor mewn ffenest newydd, sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i wneud y mwyaf o'ch amser yma.