Toglo gwelededd dewislen symudol

Cŵn XL Bully: arweiniad i denantiaid Cyngor Abertawe

Ydych chi'n berchen ar gi XL Bully? Mae'r math o frîd XL Bully wedi'i ychwanegu at y rhestr o gŵn sydd wedi'u gwahardd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.

O 31 Rhagfyr 2023, bydd yn anghyfreithlon i fridio, gwerthu, cyfnewid, hysbysebu, ailgartrefu, rhoi, gadael a chaniatáu i gi XL Bully grwydro, a bydd yn rhaid i'r cŵn hyn wisgo mwsel a chael eu cadw ar dennyn yn gyhoeddus (mae hyn yn cynnwys ardaloedd cymunedol mewnol ac allanol os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau).

O 1 Chwefror 2024, bydd yn drosedd bod yn berchen ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr, oni bai fod gan y perchennog Dystysgrif Eithrio.

Rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais am Dystysgrif Eithrio

Mae'n amod o'r Dystysgrif Eithrio i gael caniatâd landlord os ydych yn ddeiliad contract (tenant). Mae'n bwysig felly eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa dai ardal leol os ydych yn dymuno cadw'ch ci XL Bully a gofyn am ganiatâd.