Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cardiau bws consesiynol

Mae rhai pobl yn gymwys i deithio am ddim neu deithio gostyngedig ar wasanaethau bysus lleol.

Cludiant am ddim ar wasanaethau bysus lleol yng Nghymru ar gyfer y rheini sy'n 60 oed neu'n hŷn a phobl ag anabledd cymwys

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i bobl 60 oed neu'n hŷn

Rhoddir cardiau bws consesiynol gan Drafnidiaeth Cymru. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o dderbyn eich cerdyn bws yw trwy wneud cais ar-lein trwy eu gwefan. Bydd angen i chi lanlwytho un prawf o'ch dyddiad geni, dau brawf o'ch cyfeiriad, un ffotograff lliw a darparu eich Rhif Yswiriant Gwladol. Ni fyddwch yn gallu cwblhau eich cais os na ddarperir yr wybodaeth hon. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan. Fodd bynnag, os nad yw'r cymorth hwn ar gael i chi, ffoniwch 07584606772 neu e-bostiwch tocynnaubws@abertawe.gov.uk

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i berson anabl

Dilynwch y cyfarwyddiadau uchod, ond bydd angen i chi lanlwytho un prawf o'ch anabledd. I gael rhagor o wybodaeth am ba brawf o'ch anabledd y gallwch ei lanlwytho, ewch i www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) fel y nodir uchod.

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith

Os ydych chi'n gymwys am gerdyn bws consesiynol ond nad ydych yn gallu teithio ar fws heb gymorth gan berson arall, gallwch fod yn gymwys i gael eich asesu am gerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith.

Gallwch fod yn gymwys os oes gennych un o'r canlynol:

  1. Ymddygiad heriol, ac y mae angen eich goruchwylio drwy'r amser
  2. Namau gwybyddol a meddyliol dwys (gan gynnwys pobl nad oes ganddynt ymwybyddiaeth o risg a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith)
  3. Cyfuniad o naill ai colli golwg neu glyw sy'n atal symudedd annibynnol neu golli golwg a lleferydd sy'n atal symudedd annibynnol
  4. Anhawster defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.

Os yw o leiaf un o'r uchod yn berthnasol i chi, rydych yn gymwys i gael eich asesu ar gyfer cerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith. Ffoniwch 07584606772 neu e-bostiwch tocynnaubws@abertawe.gov.uk.

Bydd angen i ni eich asesu trwy weithiwr proffesiynol meddygol i fod yn sicr eich bod chi'n gymwys ar gyfer cerdyn bws cydymaith.

Os nad yw o leiaf un o'r uchod yn berthnasol i chi, yn anffodus nid ydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith ar hyn o bryd.

Cardiau bws sydd ar goll, wedi'u dwyn neu wedi'u difrodi

Os yw eich cerdyn bws ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â Thrafnidiaeth Cymru www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) neu ffoniwch nhw ar 0300 303 4240

 

Teithio am bris gostyngol i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yng Nghymru

Os ydych rhwng 16 a 21 oed, gallwch gael 1/3 oddi ar brisiau teithiau bws gyda fyngherdynteithio. Mae'r cerdyn am ddim. Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod sut i wneud cais amdano, ewch i wefan fyngherdynteithio (Yn agor ffenestr newydd)

Diweddariad - Cynllun Teithio am Ddim i Ffoaduriaid ar Fysiau Cymru - Tocyn Croeso

Bydd y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben ar 1 Ebrill 2024.

Close Dewis iaith