Tocyn tymor meysydd parcio
Gwybodaeth am sut i brynu tocyn tymor ar gyfer maes parcio.
Mae tocynnau tymor meysydd parcio ar gael ar gyfer:
- Heol East Burrows (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Stryd Madoc
- Stryd Paxton (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Glanfa Pocketts
- Maes parcio aml-lawr Dewi Sant (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Y Strand (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Salubrious Place
- Maes Parcio Langland
- Maes parcio'r Baddon (ddim ar gael ar hyn o bryd)
- Maes parcio Langland ar gyfer staff y Langland Brasserie
Gellir ystyried meysydd parcio eraill. Ebostiwch ni yn meysydd.parcio@abertawe.gov.uk i gael dyfynbris ar gyfer unrhyw faes parcio arall.
Sut i gyflwyno cais
I gyflwyno cais am docyn tymor ar gyfer meysydd parcio, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Faniau â charnau tro olwynion safonol a cheir yn unig caiff eu hystyried ar gyfer tocyn tymor (uchafswm o 3.3 metr o hyd). Ni chaiff faniau â charnau tro olwynion hir eu derbyn.
Sylwer: Os yw'r lleoedd yn y maes parcio rydych yn cyflwyno cais amdano yn llawn o ran nifer y tocynnau tymor sydd ar gael, efallai na fydd Gwasanaethau Parcio yn gallu gyflwyno'r tocyn tymor a bydd ad-daliad/ hysbysiad yn cael ei anfon atoch cyn gynted â phosib.
Ffïoedd
Byddwch yn gallu talu am eich tocyn tymor ar yr un pryd ag yr ydych yn cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
Meysydd Parcio Canol y Ddinas | Meysydd Parcio y tu allan i Ganol Dinas Abertawe | ||
---|---|---|---|
1 mis | £75 | 1 mis | £66 |
3 mis | £220 | 3 mis | £167 |
6 mis | £440 | 6 mis | £334 |
12 mis | £735 | 12 mis | £550 |
Tocynnau sy'n mynd ar goll neu sydd wedi'u difrodi
Os yw tocyn tymor yn cael ei brynu ac yn mynd ar goll neu'n cael ei ddifrodi oherwydd bod deiliad y cerdyn wedi'i gamddefnyddio, bydd angen talu ffi o £25.00 i gael un newydd. Mae hyn yn cynnwys cardiau tocyn maes parcio aml-lawr a chardiau tocyn Parcio a Theithio.
Mae'r tocyn tymor yn ad-daladwy, ond mewn achosion lle caiff y tocyn tymor ei ddychwelyd cyn y dyddiad dod i ben, bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar y misoedd llawn sy'n weddill.
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk.