Toglo gwelededd dewislen symudol

Torri glaswellt a chynnal coed

Gwybodaeth am waith torri glaswellt a chynnal coed rydym yn ei wneud.

Torri glaswellt

Mae gwaith torri glaswellt fel arfer yn dechrau ym mis Mawrth, gan ddibynnu ar y tywydd a'r tir. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cadw ardaloedd yn glir yn weledol ar gyfer gyrwyr a cherddwyr, ac i sicrhau bod ardaloedd yn ddi-sbwriel ac yn edrych yn ddeniadol.

Ni thorrir y glaswellt mewn rhai ardaloedd i geisio helpu bioamrywiaeth drwy greu "coridorau bywyd gwyllt" a chynyddu nifer y peillwyr trwy ddarparu dolau gwyllt. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd dant y llew fel ffynhonnell bwyd i wenyn ac nid yw torri glaswellt yn aml yn cael effaith niweidiol ar eu twf - mae dant y llew yn blodeuo trwy gydol misoedd y gwanwyn a'r haf.

Coed

Mae ein gwaith ar goed yn perthyn i'r categorïau canlynol:

  • Gwaith brys: os bydd cyflwr coeden sy'n eiddo i'r cyngor yn peri risg uchel iawn i bobl neu eiddo, byddwn yn mynd i'r safle ar frys, fel arfer o fewn 2 awr, ac o fewn 4 awr bob tro, oni bai bod y tywydd yn eithafol. Os na ellir gwneud y gwaith, ynysir yr ardaloedd mewn perygl nes bod adnoddau ar gael. Yn ystod stormydd mawr a thywydd eithafol, byddwn yn ymateb mor gyflym â phosib ond bydd angen i ni flaenoriaethu cadw'r ffyrdd ar agor ar gyfer gwasanaethau brys.
  • Gwaith hanfodol: byddwn yn sicrhau bod coed sy'n edrych fel risg uchel ond nad ydynt yn peri risg uniongyrchol i'r cyhoedd yn ddiogel o fewn amserlen ddigonol gan ddibynnu ar lefel y risg ganfyddedig ar adeg yr archwiliad.
  • Gwaith dymunol: bydd gwaith ar goed nad ystyrir ei fod yn frys nac yn hanfodol yn waith dymunol ac fe'i nodir yn ein rhaglen o waith risg isel. Gwneir gwaith dymunol a gwaith risg isel o fewn blwyddyn fel arfer lle bo'n bosib oni bai bod amgylchiadau annisgwyl megis stormydd yn achosi mwy o oedi i'r gwaith.

Cynhelir pob archwiliad gan dyfwyr coed cymwys.

Os byddwch yn gweld ein timau'n torri coed sy'n eiddo i'r cyngor neu goed a rheolir gan y cyngor, byddant yn gwneud hynny am y rhesymau canlynol:

  • Mae'r goeden wedi marw neu'n marw neu'n afiach 
  • Profwyd bod y goeden yn achosi ymsuddiant
  • Byddai torri'r goeden o les i goed cyfagos
  • Mae'n un o ofynion cynllun rheoli, adfywio neu ddatblygu.

Ni fyddwn yn tocio nac yn torri coeden sy'n eiddo i'r cyngor neu a reolir gan y cyngor er mwyn gwella goleuni naturiol mewn eiddo preifat neu yn eiddo'r cyngor.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu coed iach a dim ond os caiff ei ystyried yn angenrheidiol fel rhan o arfer rheoli coed safonol y byddwn yn gwneud gwaith ar goed. Felly, ni fyddem yn gwneud gwaith ar goed sy'n gorhongian, sy'n colli dail, sy'n blodeuo, sy'n denu pryfed, sy'n creu melwlith, sy'n effeithio ar baneli solar, sy'n effeithio ar signal teledu neu ddysgl lloeren, sy'n cynhyrchu ffrwythau/cnau, neu os ydych yn meddwl bod y goeden yn rhy fawr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Chwefror 2022