Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - adroddiad Ymgynghori
Adroaddiad ymgynghori ar y cynnig.
- Cyfuno Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Crug Glas yn un Ysgol Arbennig ar 1 Medi 2025 ar safleoedd presennol
- Adleoli'r ysgol newydd ar 1 Ebrill 2028 i safle pwrpasol ar Ffordd Mynydd Garnllwyd, wrth gynyddu nifer y lleoedd sydd wedi'u cynllunio.
Contents:
1. Cefndir
2. Methodoleg
3. Ymgynghori â phlant a phobl ifanc
4. Ymgynghori â rhieni / gofalwyr, staff, a chyrff llywodraethu'r ysgolion
5. Ymateb Estyn
6. Adborth mewn perthynas â'r effaith ar y Gymraeg
Atodiad 1 - Crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad i ddisgyblion
Atodiad 2 - Crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad
Atodiad 3 - Cofnodion cyfarfodydd ymgynghori
1. Cefndir
Mae gan Abertawe hanes cryf o ddiwallu ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gyda chontinwwm o ddarpariaeth arbenigol. Mae'r ystod hon o ADY wedi ehangu dros amser. Yn rhan o'r newid diwylliant sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET), gwnaed llawer o waith gydag ysgolion prif ffrwd i ddod yn fwyfwy cynhwysol ac ymatebol i ystod ADY sy'n ehangu. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion sydd ag ADY yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd.
Mae angen bodloni nifer sylweddol o ddisgyblion sydd ag ADY, ac sydd ag anghenion mwy difrifol a chymhleth, ar gyfer eu dysgu a'u lles.
Yn Abertawe, mae'r lleoliadau mwy arbenigol hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu arbenigol (STF), sy'n cefnogi disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol (MSD) neu Gyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (ASC) cymedrol/difrifol. Ychydig iawn o leoedd dros ben sydd ar gael mewn STF prif ffrwd.
Yn ogystal, mae dwy ysgol arbennig yn darparu addysg ar gyfer uchafswm o 250 o ddisgyblion, rhwng 3 a 19 oed:
Mae gan Ysgol Crug Glas 55 o leoedd i ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD). Mae'r ysgol hon yn cynnwys tri bloc sy'n amrywio o'r 1960au i 2010.
Mae gan Ysgol Pen-y-bryn 195 o leoedd. Mae ganddi 116 o leoedd ar gyfer anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol (M/SLD) a 79 o leoedd i ddisgyblion sydd ag awtistiaeth ddifrifol. Mae'r ysgol hon yn cynnwys pum bloc ar ddau safle, yn amrywio o ran oedran o'r 1960au i ôl 2010.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae cyfran y disgyblion sydd ag ADY wedi codi, gan greu galw cynyddol am leoedd ysgol arbennig yn Abertawe. Mewn ymateb i'r angen hwn, cynyddodd Cyngor Abertawe'r lleoedd arfaethedig sydd ar gael yn Ysgol Pen-y-bryn yng ngwanwyn 2021, trwy ddefnyddio Uned Cyfeirio Disgyblion a oedd wedi gadael yn ddiweddar. Fodd bynnag, roedd hyn yn darparu ateb tymor byr, ac mae angen datrysiad tymor hwy, cynaliadwy a hyblyg i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu addysg ragorol i ddisgyblion yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Cyngor Abertawe, yn rhan o adolygiad ehangach o'r ddarpariaeth addysgu arbenigol ar draws yr awdurdod lleol, wedi ymgynghori'n ddiweddar ar y newidiadau arfaethedig canlynol mewn darpariaeth ysgolion arbennig:
- Cyfuno Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Crug Glas o 1 Medi 2025 ymlaen ar eu safleoedd presennol, er mwyn hwyluso'r broses bontio i un ysgol pan fydd yr adeilad wedi'i gwblhau.
- 1. Adeiladu Ysgol Arbennig newydd ar gyfer 350 o ddisgyblion ar Ffordd Mynydd Garnllwyd ar dir yn agos at safle presennol Ysgol Pen-y-bryn a fydd yn barod i'w feddiannu ym mis Ebrill 2028.
2. Methodoleg
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad â'r ymgyngoreion penodedig a gynhwysir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion: www.llyw.cymru/cod-trefniadaeth-ysgolion drwy lythyr/e-bost gyda dolen at y ddogfen ymgynghori ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/trefniadaethYsgolionCynlluniauYsgolArbennig.
Roedd y cyfnod ymgynghori rhwng 9 Hydref a 24 Tachwedd 2023.
Cyfarfod ar gyfer: | Lleoliad | Dyddiad | Amser | Presenoldeb |
---|---|---|---|---|
Rhieni / gofalwyr | Ysgol Pen-y-Bryn | 07/11/23 | 1.30pm | 4 |
Llywodraethwyr | Ysgol Pen-y-Bryn | 07/11/23 | 2.30pm | 5 |
Staff | Ysgol Pen-y-Bryn | 07/11/23 | 3.30pm | 52 |
Llywodraethwyr | Ysgol Crug Glas | 08/11/23 | 2.30pm | 5 |
Staff | Ysgol Crug Glas | 08/11/23 | 3.30pm | 36 |
Rhieni / gofalwyr | Ysgol Crug Glas | 08/11/23 | 4.30pm | 4 |
Cyfarfod amgen ar gyfer yr holl bartïon â diddordeb | Cyfarfod rhithiol - Teams ar-lein | 13/11/23 | 11.00am | 0 |
Cyfarfod amgen ar gyfer yr holl bartïon â diddordeb | Pencadlys y sgowtiaid a'r geidiau, Abertawe | 15/11/23 | 1.00pm | 2 |
Mae'r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfodydd wedi'i gynnwys yma ac ar gael ar y ddolen wefan isod: Ymgynghoriad trefniadaeth ysgolion (PDF, 661 KB)
www.abertawe.gov.uk/trefniadaethYsgolionCynlluniauYsgolArbennig
Mae cyhoeddi dogfen ymgynghori yn ganolog i'r broses ymgynghori a ragnodir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu ysgolion. Roedd y ddogfen ymgynghori yn amlinellu'r newidiadau sy'n cael eu hystyried, y rhesymeg ar gyfer y rhain, manylion y broses ymgynghori ac yn cynnwys ffurflen ymateb. Rhoddwyd gwybod i ymgyngoreion am argaeledd fersiwn ar-lein o'r ffurflen ymateb a'r cyfeiriadau cyswllt er mwyn anfon sylwadau drwy'r e-bost.
3. Ymgynghori â phlant a phobl ifanc
Roedd sicrhau bod barn dysgwyr yn cael eu dal a'u hystyried yn ofalus yn flaenoriaeth drwy gydol y broses ymgynghori. Crëwyd 'papur ymgynghori â disgyblion' pwrpasol, hawdd ei ddarllen, a gwnaed arolwg disgyblion ar-lein hefyd ar gael i ddisgyblion y gallai hyn fod yn briodol iddynt. Anogwyd y disgyblion i fwydo'n ôl ar unrhyw ffurf yr oeddent yn teimlo'n gyfforddus â hi. Eglurwyd y cynnig i bob dysgwr mewn ffordd y gallant ei deall gan eu hathro dosbarth, y maent yn gyfarwydd ag ef/hi ac sy'n gallu cyfathrebu â nhw. Ar gyfer disgyblion sydd â'r anghenion arbennig pwysicaf, defnyddiodd yr ysgolion strategaethau cyfathrebu wedi'u hymgorffori'n dda, gan gynnwys eu hoffer cyfathrebu pwrpasol eu hunain i sicrhau y gallai hyd yn oed y dysgwyr hynny nad ydynt yn cyfathrebu â geiriau gyfleu eu teimladau ynghylch y cynnig.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori cafwyd 66 o ymatebion gan ddisgyblion Ysgol Pen-y-bryn, a chafwyd ymateb cryno gan yr ysgol ar ran disgyblion Ysgol Crug Glas. Cyfanswm y disgyblion ar y gofrestr yn y ddwy ysgol ar ddyddiad PLASC Ionawr 2023 oedd 233 (180 yn Ysgol Pen-y-bryn a 53 yn Ysgol Crug Glas).
Yn cefnogi'r cynnig / hapus | 42 |
Yn erbyn y cynnig / anhapus | 0 |
Ddim yn gwybod | 24 |
Ni dderbyniwyd llythyrau/negeseuon e-bost.
Y prif ymatebion cadarnhaol i'r disgyblion gan y ddwy ysgol yn fras yw:
- gwneud ffrindiau newydd;
- bod yn gyffrous;
- bydd yr ysgol yn fawr gyda rhagor o ystafelloedd dosbarth.
Nododd rhai o'r disgyblion:
- nad oeddent yn poeni;
- eu bod yn ansicr;
- na fyddant yn ddisgybl pan fydd yr adeilad newydd yn agor.
Nododd un eu bod am i bethau aros yr un fath.
Mae crynodeb o'r holl ymatebion disgyblion a gasglwyd gan yr ysgolion i'w gweld yn Atodiad 1
4. Ymgynghori â rhieni / gofalwyr, staff, a chyrff llywodraethu'r ysgolion
Yn ystod y cyfnod ymgynghori derbyniwyd 16 o ymatebion i'r arolwg ar-lein.
Yn cefnogi'r cynnig / hapus | 12 |
Yn erbyn y cynnig / anhapus | 4 |
Ymatebion gan: | |
Ddisgybl | 0 |
Rhiant / gofalwr | 3 |
Aelod o staff | 7 |
Llywodraethwr | 3 |
Aelod o'r gymuned | 3 |
Arall | 0 |
Derbyniwyd un llythyr, a oedd o blaid y cynnig, oddi wrth Gorff Llywodraethu Ysgol Crug Glas. Roedd y Corff Llywodraethu yn Ysgol Pen-y-bryn hefyd o blaid y cynnig, a chyflwynodd Cadeirydd y Llywodraethwyr ymateb cadarnhaol i'r arolwg ar-lein ar ran y corff llywodraethu.
Ar y cyfan, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.
Y prif sylwadau cadarnhaol a gafwyd oedd:
- Cydnabuwyd yr effaith gadarnhaol y bydd yr ysgol a'r cyfleusterau newydd yn ei chael ar ddysgwyr, staff a'r gymuned.
- Cydnabuwyd y bydd y cynnig yn caniatáu i fwy o ddisgyblion aros o fewn Abertawe ar gyfer eu haddysg.
- Bydd y cynnig yn cefnogi Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (STF) drwy leihau'r pwysau ar ysgolion prif ffrwd a chaniatáu cyfleoedd dysgu staff.
Y prif bryderon a godwyd oedd:
- Tagfeydd traffig o amgylch y safle adeiladu newydd arfaethedig a'r effaith bosibl ar drigolion lleol a'r amgylchedd.
- Yr effaith bosibl ar staff, yn enwedig y penaethiaid, oherwydd y cyfnod o ansicrwydd a'r llwyth gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r adeilad newydd.
- Efallai y bydd y dyddiad uno ym mis Medi 2025 yn rhy fuan.
- Pryder am swyddi a rolau staff yn dilyn ailstrwythuro posibl.
Mae crynodeb o'r materion a godwyd, ac ymateb yr awdurdod lleol ynghlwm yn Atodiad 2.
Mae nodiadau o'r cyfarfodydd ymgynghori â rhieni/gofalwyr, staff a chyrff llywodraethu i'w gweld yn Atodiad 3.
5. Ymateb Estyn
Roedd hefyd yn ofynnol i Estyn, arolygiaeth ysgolion Cymru, wneud sylw ar y cynnig, yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Mae eu hymateb fel a ganlyn:
Ymateb Estyn i'r cynnig uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un Ysgol Arbennig ar 1 Medi 2025 ar y safleoedd presennol; ac i adleoli'r ysgol newydd ar 1 Ebrill 2028 mewn adeilad pwrpasol ar Ffordd Mynydd Garnllwyd, gan gynyddu nifer y lleoedd arfaethedig.
Cyflwyniad
Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru.
O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'i Chod cysylltiedig, mae'n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae'n ofynnol iddo weithredu yn unol â'r Cod ac nid yw'r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn o ran materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn yn rhoi eu barn ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion yn unig.
Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio'r ymateb canlynol i'r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigiwr.
Crynodeb / casgliad
Mae Estyn o'r farn bod y cynnig yn debygol o gynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal, o leiaf.
Disgrifiad a manteision
Mae'r awdurdod lleol wedi cyflwyno sail resymegol glir dros ei gynnig. Mae'n amlinellu'n gadarn fanteision niferus adeiladu ysgol newydd i fodloni anghenion y nifer gynyddol o ddisgyblion ag anghenion cymhleth. Mae'r awdurdod lleol wedi nodi bod cyfran y disgyblion ag ADY cymhleth wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf, gan yrru galw cynyddol am leoedd ysgol arbennig yn Abertawe. Ar hyn o bryd, mae'r ddwy ysgol yn llawn ac nid oes opsiynau pellach i ehangu. Ymddengys fod y sail resymegol ar gyfer codi adeilad newydd yn gadarn ac mae'n cynnwys datblygu mwy o gapasiti i fodloni anghenion disgyblion, rhannu arbenigedd yn fwy ac ad-drefnu adnoddau yn effeithlon.
Mae'r awdurdod lleol wedi darparu disgrifiad digon manwl o'r cynnig, sy'n cynnwys amcan o amserlen ar gyfer gweithdrefnau statudol.
Ar y cyfan, mae'r cynigiwr yn nodi'n glir ac yn deg y manteision ac anfanteision disgwyliedig o gymharu â'r sefyllfa sydd ohoni a sut y bydd yn rheoli unrhyw risg. Mae safle arfaethedig yr ysgol newydd gerllaw Ysgol Pen-y-Bryn ac mae'n daith car 13 munud o Ysgol Crug Glas, a fyddai'n golygu teithio ychwanegol i'r disgyblion hynny. Fodd bynnag, oherwydd natur y ddarpariaeth arbenigol hon, mae'r awdurdod lleol yn nodi bod angen i bob disgybl deithio ar draws Abertawe bob dydd a gwneir trefniadau cludiant yn unol â Pholisi Cyngor Abertawe ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Er bod safle wedi cael ei nodi ar gyfer yr adeilad newydd, ymddengys nad yw hyn wedi'i gadarnhau eto.
Mae'r awdurdod lleol wedi ystyried opsiynau eraill fel ehangu'r ysgolion presennol, ond nid oes capasiti ar y naill safle na'r llall i fodloni anghenion y nifer gynyddol o leoedd sydd eu hangen ledled Abertawe i ddisgyblion ag ADY cymhleth a dwys. Yn ogystal, nid yw'r naill ysgol na'r llall yn 'addas at ei diben' ar hyn o bryd nac yn gallu darparu amgylchedd addas i ddisgyblion heb fuddsoddiad ariannol enfawr. Felly, bydd ysgol newydd yn fwy cost effeithiol ac yn debygol o ateb y galw cynyddol am leoedd.
Er bod manteision clir i'r cynnig ar gyfer ysgol newydd a'r uno yn y pen draw o ran ysgol a adeiladwyd yn bwrpasol gyda mwy o gapasiti, nid yw achos yr awdurdod lleol dros uno'r ddwy ysgol erbyn 2025 yn ymddangos mor argyhoeddiadol. Er y bydd yr ysgol yn gweithredu fel un, gydag un corff llywodraethol, un set o bolisïau ac un gyllideb, nid yw'n ymddangos bod y manteision i'r disgyblion mor glir. Ni fydd unrhyw leoedd ychwanegol ar gael, nid oes unrhyw waith pellach yn yr arfaeth i wella'r safleoedd a bydd staff o hyd yn gweithio ar ddau safle ar wahân, gyda bron i dair milltir rhyngddynt. Ni fyddai rhannu cyfleusterau a chyfleoedd datblygu proffesiynol i staff a disgyblion rhwng safleoedd yn hawdd. Nid yw'n glir pam mae angen uno cyn bod yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei hadeiladu, oherwydd ymddengys fod hyn yn darfu ychwanegol.
Yn dilyn adolygiad eang gan Gyngor Abertawe o'r ddarpariaeth addysgu arbenigol ar draws yr awdurdod lleol, mae'r sail resymegol yn nodi galw cynyddol am leoedd ysgol arbennig yn Abertawe. Mae'r awdurdod lleol wedi adolygu anghenion iaith y garfan bresennol o ddysgwyr ar draws yr ysgolion ac wedi dod i'r casgliad nad oes gofyniad ar hyn o bryd am ysgol arbennig cyfrwng Cymraeg yn Abertawe. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd y Gymraeg ar draws y lleoliadau presennol yn cael ei amlinellu'n glir. Mae'r awdurdod lleol yn bwriadu defnyddio arbenigedd staff rhwng yr ysgolion i barhau i ddatblygu ei ymarfer yn y maes hwn.
Ni cheisir cyllid cyfalaf ar gyfer yr uno; fodd bynnag, bydd goblygiadau o ran cyllid refeniw oherwydd byddai'r ysgol unedig newydd yn derbyn un gyfran o'r gyllideb, yn hytrach na dwy. Caiff hyn ei chyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla cyllido a gymeradwywyd a bydd yn cyfrif am y cyfanswm o 250 o leoedd arfaethedig a fyddai gan yr ysgol unedig. Pan fydd yr ysgol yn symud i'r safle estynedig, bydd y gyfran o'r gyllideb yn cynyddu i adlewyrchu'r safle newydd a'r 350 o leoedd arfaethedig.
Os nad eir i'r afael â'r prinder lleoedd ysgol arbennig yn Abertawe, mae'r awdurdod lleol wedi nodi y byddai nifer y disgyblion sydd angen darpariaeth y tu allan i'r sir neu yn y sector annibynnol yn cynyddu, a fyddai'n effeithio ar gost. Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hariannu trwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac amcangyfrifwyd y byddai'n costio £43,600,000. Ariennir 75% o'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a 25% gan y cyngor, a disgwylir i Lywodraeth Cymru dalu 100% o'r costau ychwanegol i gyflawni sefyllfa weithredol Sero Net Carbon. Fodd bynnag, nid yw'n glir p'un a yw'r cyllid hwn yn sicr. Nid yw'r cynigiwr yn esbonio beth fydd yn digwydd os na fydd y cyllid hwn ar gael ac os na roddir caniatâd cynllunio lleol.
Mae'r awdurdod lleol wedi darparu Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg ac Asesiad Effaith Cymunedol fel rhan o'r cynnig hwn. Mae Estyn yn rhoi ei farn dim ond ar rinweddau cyffredinol y cynigion ad-drefnu ysgolion ac nid yw'n gwerthuso'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg na'r Asesiad Effaith Cymunedol.
Agweddau addysgo ar y cynnig
Mae'r awdurdod lleol yn ystyried yn briodol effaith y cynigion ar ansawdd a safonau mewn addysg, gan gynnwys safonau disgyblion, lles, addysgu a phrofiadau dysgu, gofal, cymorth ac arweiniad, arweinyddiaeth a rheolaeth. Er enghraifft, mae'r cynnig yn nodi y byddai trosglwyddo i safle newydd yn darparu gofod awyr agored helaeth, gan gynnwys gofod gwyrdd, i ddisgyblion ddysgu a chwarae. Mae'r awdurdod lleol yn cyfeirio at argymhellion Arolygiad Estyn o Ysgol Pen-y-Bryn, sy'n nodi bod angen gwell dysgu awyr agored. Mae'n rhagdybio'n deg y byddai lles disgyblion a'u hagweddau at ddysgu yn elwa o ofod awyr agored amrywiol a deniadol. Mae'n nodi y byddai adeilad ysgol addas at ei ddiben yn helpu staff i ddarparu profiadau dysgu ehangach, a fyddai'n cyfrannu at gyflwyno cwricwlwm cytbwys, yn unol â'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Hefyd, mae'r cynnig yn nodi y bydd Ysgol Crug Glas yn parhau â'i waith â Llywodraeth Cymru ar ddatblygu profiadau dysgu dilys i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Mae'r awdurdod lleol o'r farn y bydd yr adeilad newydd yn gwella'r profiadau dysgu, lles a therapiwtig a ddarperir i'r holl ddisgyblion. Hefyd, mae'n ystyried sut bydd yr ysgol newydd yn hwyluso'r ddarpariaeth gweithio amlddisgyblaethol gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol allanol. Mae'r ddwy ysgol yn gosod cryn bwyslais ar ofal, cymorth ac arweiniad, gyda ffocws ar fodloni anghenion unigol a darparu cymorth addas i ddatblygu lles corfforol ac emosiynol.
Ymddengys fod y cyngor wedi ystyried y capasiti arwain yn y ddwy ysgol a sut mae hyn wedi datblygu a gwella yn ddiweddar, ond ymddengys nad yw wedi ystyried sut bydd y strwythur hwn yn gweithio pan fydd yr ysgolion yn uno.
Mae'r awdurdod lleol yn nodi bod cynigion ad-drefnu ysgolion yn anochel yn achosi rhywfaint o darfu ac ansicrwydd. Mae'n nodi bod profiad yn dangos bod modd lleihau hyn cymaint â phosibl trwy ymgysylltu trylwyr trwy gydol y broses ymgynghori ac mae wedi cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i'r ymgynghoriad.
Serch hynny, nid yw'r cynnig yn ystyried beth yw'r ffactorau tarfu posibl hyn yn yr achos hwn, na sut bydd yr awdurdod lleol yn lleihau'r rhain i ddysgwyr.
Ymateb yr awdurdod lleol i Estyn
Mae'r awdurdod lleol (ALl) yn cytuno â'r adborth cadarnhaol a ddarparwyd gan Estyn ynghylch y cynnig hwn. Fodd bynnag, mae rhai sylwadau penodol yr ydym wedi rhoi ymateb iddynt:
"Er bod manteision clir i'r cynnig ysgol newydd a'r uno yn y pen draw o ran ysgol bwrpasol sydd â rhagor o gapasiti, nid yw achos yr awdurdod lleol dros uno'r ddwy ysgol erbyn 2025 yn ymddangos yn un grymus. Er y bydd yr ysgol yn gweithredu yn un gydag un corff llywodraethu, un set o bolisïau, un gyllideb, nid yw'n ymddangos bod y manteision i'r disgyblion mor glir. Ni fydd lleoedd ychwanegol ar gael, nid oes unrhyw waith pellach wedi'i gynllunio i wella'r safleoedd a bydd staff yn dal i weithio ar ddau safle ar wahân sydd bron tair milltir oddi wrth ei gilydd. Ni fyddai'n hawdd rhannu cyfleusterau a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff a disgyblion rhwng safleoedd. Nid yw'n glir pam mae angen uno cyn i'r ysgol newydd arfaethedig gael ei hadeiladu gan ei bod yn ymddangos bod hyn yn amharu ychwanegol."
Mae'r llinell amser ar gyfer y cynnig hwn wedi'i hystyried yn ofalus. Nid yw penderfyniad y Cabinet ar y cynigion a gynhwysir yn yr ymgynghoriad statudol hwn yn ddyladwy tan fis Mai 2024. Bwriedir caffael yr adeilad newydd gan ddefnyddio proses dendro dau gam. Y tendr cam cyntaf fydd sicrhau contractwr i weithio gyda'r Cyngor a'r holl randdeiliaid i ddatblygu'r dyluniad sy'n arwain at ail dendr cam dau a'r cam adeiladu. Ni all y broses dendro ail gam ddechrau nes bod y Cabinet wedi gwneud penderfyniad ac os yw hynny'n mynd rhagddo fel y cynigir. Mae llinell amser y prosiect mor gytundebol â phosibl ac ar hyn o bryd mae'n dangos y bydd y broses dendro cam un yn dechrau yn haf 2024, yn dilyn y penderfyniad hwnnw. Disgwylir i'r broses ddylunio gael ei chwblhau a'r cyflwyniad cam dau yn cael ei gyflwyno yn ystod haf 2026, gyda'r cam adeiladu sy'n dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl i'r prosesau cyfreithiol gael eu cwblhau.
Os na fydd yr uniad yn cael ei weithredu tan fis Medi 2026, bydd ysgolion a staff mewn cyfnod diangen ansefydlog, hir, diangen rhwng y penderfyniad a'r gweithredu.
Bydd y cyfnod dylunio yn golygu ymgysylltu'n sylweddol â chyrff llywodraethu, staff, disgyblion a rhieni a gofalwyr yr ysgolion gyda llawer o benderfyniadau yn ofynnol na fydd modd eu newid unwaith y bydd y dyluniad wedi'i rewi yn haf 2026. Er y bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r ddwy ysgol yn ystod y cyfnod a arweiniodd at uno arfaethedig ym mis Medi 2025, bydd manteision sylweddol o ran gweithio gyda'r ysgol newydd, gan feddwl fel un a chyda'i uwch dîm arwain newydd. Os caiff yr uniad ei ohirio tan fis Medi 2026, mae perygl na fydd gan yr ysgol newydd 'berchnogaeth' o'i hadeilad newydd, ac ni fydd y dyluniad terfynol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol newydd.
Bydd adeilad newydd yr ysgol yn cynnwys, er enghraifft, cyfleusterau a thechnoleg nad ydynt yn bodoli yn yr un ysgol bresennol. Os bydd yr ysgol newydd yn cael ei gweithredu ym mis Medi 2025, bydd hyn yn rhoi'r cyfle i'r corff llywodraethu newydd a'r uwch dîm arwain ystyried a pharatoi ei strwythur staffio newydd i wneud yn fawr o fanteision yr adeilad newydd a dod â staff, disgyblion a gwasanaethau eraill ynghyd ar un safle. Unwaith y bydd y dyluniad wedi'i rewi, disgwylir y bydd cyfnod adeiladu dwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod cynllunio amser ar gyfer trosglwyddo a chynllunio pontio yn dechrau. Bydd hyn yn elwa o'r strwythur staffio newydd a fydd wedi'i fewnosod ac yn helpu i leihau effaith pontio i'r adeilad newydd i ddisgyblion.
"Nid yw'n glir a yw'r cyllid hwn yn ddiogel. Dydy'r cynigydd ddim yn egluro beth fydd yn digwydd os nad yw'r cyllid hwn ar gael ac os na roddir caniatâd cynllunio lleol".
Ni ellir gwarantu cyllid hyd nes y bydd y costau tendro cam dau yn cael eu cadarnhau, mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo'r cyllid i'r rhaglen gyfalaf ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyfarniad contract yn dilyn cymeradwyaeth achos busnes.
Fodd bynnag, mae'r prosiect yn rhan o Raglen Amlinellol Strategol (SOP) y Cyngor, ac isod mae'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i chyllid ar gyfer y rhaglen dreigl Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (SCfL) newydd:
"Oherwydd natur y rhaglen, er gwaethaf y ffaith fod cyllid seilwaith strategol wedi'i ymrwymo dros sawl blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru a thîm SCfL yn dal i reoli'r cyllidebau yn flynyddol. Wrth i'r rhaglenni gael eu cyflwyno ar wahanol gamau bydd yn ddyletswydd ar y tîm SCfL i reoli'r rhaglen yn effeithiol yn unol â gofynion Cynlluniau Monitro Perfformiad Unigol a llyfnhau unrhyw gopaon neu gafnau o ran pwysau cyllidebol, gan sicrhau bod cyllid ar gael i'r holl bartneriaid cyflawni ar ba adeg bynnag adeg y byddant yn cyflwyno eu SOP newydd.'
Mae'r Cyngor wedi ymgynghori â'r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y safle arfaethedig ac wedi cynnal ymchwiliadau tir ar y safle, ac o'r herwydd, yn amodol ar y datblygiad dylunio priodol, ystyrir bod y risg o beidio â sicrhau caniatâd cynllunio yn isel.
"Mae'n ymddangos bod y Cyngor wedi ystyried y gallu i arwain yn y ddwy ysgol a sut mae hyn wedi datblygu a gwella yn ddiweddar ond nid yw'n ymddangos ei fod wedi ystyried sut y bydd y strwythur hwn yn gweithio pan fydd yr ysgolion yn uno."
Y strwythur yn y pen draw fydd i'r corff llywodraethu dros dro benderfynu, a bydd yr ALl yn gweithio'n agos gyda nhw i gefnogi a chynghori ar strwythur a gweithredu. Mae hyn yn rhywbeth y mae gan yr ALl lawer o brofiad ac arbenigedd mewn hwyluso, ar ôl cyfuno sawl ysgol yn llwyddiannus ar safleoedd presennol hyd yn hyn.
"Mae'r awdurdod lleol yn nodi bod cynigion ad-drefnu ysgolion, yn anochel, yn achosi rhywfaint o darfu ac ansicrwydd. Mae'n nodi bod profiad yn dangos y gellir sicrhau cyn lleied â phosibl drwy ymgysylltu'n ystyrlon drwy gydol y broses ymgynghori ac mae wedi cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i'r ymgynghoriad. Serch hynny, nid yw'r cynnig yn ystyried beth allai'r ffactorau aflonyddgar hyn fod yn yr achos hwn, na sut y bydd yr awdurdod lleol yn lleihau'r rhain i ddysgwyr."
Bydd yr ALl yn gweithio gyda staff yr ysgol, rhieni a disgyblion i sicrhau bod y pontio mor llyfn â phosibl, a bod disgyblion yn cael cefnogaeth drwyddi draw. Mae'n debygol y bydd y trawsnewid yn cael ei gyflawni'n raddol, felly ni fyddai pawb yn symud i mewn ar unwaith. Bydd disgyblion yn cael cyfle i ymweld â'r ysgol cyn symud a chael teithiau i roi 'prawf' ar gludiant fel eu bod yn barod ar gyfer y daith wahanol. Bydd gan bob disgybl anghenion gwahanol a gwahanol fathau o gefnogaeth. Bydd yr athrawon a staff ehangach yr ysgol yn rhoi elfen o gysondeb a chefnogaeth i ddisgyblion drwyddi draw, ac mae cyfuno cynnar yn helpu cysondeb staff. Rydym yn realistig ac yn cydnabod y gall y cyfnod pontio hwn fod yn anodd i rai disgyblion, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi anghenion pob disgybl yn llawn.
Ar ben hynny, bydd y dyluniad yn cael ei gyd-adeiladu gyda mewnbwn gan gyrff llywodraethu, staff, disgyblion a rhieni/gofalwyr yr ysgolion. Yn ystod y cyfnod dylunio ac adeiladu bydd cyfleoedd yn cael eu darparu i ddysgwyr, fel y bo'n briodol i'w hanghenion, ar gyfer gweithgareddau ac ymweliadau safle i alluogi pobl i ymgyfarwyddo â'r adeilad newydd.
6. Adborth mewn perthynas â'r effaith ar y Gymraeg
Cyn yr ymgynghoriad, gwnaeth yr ALl gynnal Asesiad Effaith ar y Gymraeg. Yn ogystal â hyn, yn rhan o'r ymgynghoriad, gofynnwyd y cwestiynau canlynol i ymatebwyr:
- Oes gennych chi unrhyw bryderon neu dystiolaeth i awgrymu bod y Cyngor yn trin/defnyddio'r Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg mewn perthynas â'r cynnig a restrir yn yr arolwg hwn? (Oes/Nac oes)
- Os gwnaethoch ateb 'oes' i'r cwestiwn blaenorol, rhowch fanylion a nodwch sut y bydd y cynnig a awgrymir yn yr arolwg hwn yn effeithio ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich barn chi?
Ymatebodd un person i'r cwestiwn hwn gydag 'Oes' ac mae'r manylion, gan gynnwys ymateb yr ALl isod:
Pryderon a godwyd ynghylch yr iaith Gymraeg. Pa newidiadau (os o gwbl) ydych chi'n meddwl y gellid eu gwneud er mwyn cael rhagor o effaith gadarnhaol ar y Gymraeg?
Os yw'r UNIG ysgol sy'n hygyrch o bell yn ysgol cyfrwng Saesneg, yna ydy - mae'n ddrwg gen i ond mae'n gwahaniaethu!
Pe bai pob plentyn yn cael ei groesawu a'i gynnwys yn eu hysgol leol neu yn yr ysgol Gymraeg o'u dewis, byddai hyn yn deg.
Ymateb yr awdurdod lleol
Asesir pob disgybl a lle nodir angen, cymerir camau rhesymol i sicrhau bod disgyblion yn gallu cael mynediad i'w haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae bron pob disgybl y mae arnyn nhw angen lleoliad ysgol arbennig yn Abertawe yn rhai iaith Saesneg ac felly, bydd yr adeilad ysgol arbennig newydd yn parhau'n ysgol cyfrwng Saesneg.
Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gymryd camau rhesymol, fel y bo'n ofynnol dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), o fewn darpariaeth arbenigol i sicrhau bod disgyblion yn gallu cael mynediad i'w haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd, lle nad yw hyn yn bosibl, mae'r awdurdod lleol yn ceisio sicrhau lleoliadau arbenigol cyfrwng Cymraeg gan awdurdodau cyfagos.
The local authority is currently reviewing its Specialist Teaching Facility provision across our schools. As part of this review, we are looking to increase the Welsh-medium offer so that more learners with specific needs can be supported locally.
Ar hyn o bryd mae'r awdurdod lleol yn adolygu ei ddarpariaeth Cyfleuster Addysgu Arbenigol ar draws ein hysgolion. Yn rhan o'r adolygiad hwn, rydyn ni'n edrych i gynyddu'r cynnig cyfrwng Cymraeg fel y gellir cefnogi rhagor o ddysgwyr sydd ag anghenion penodol yn lleol.
Fel y nodir yn glir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Abertawe (WESP) 2022-2032, mae datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn weledigaeth i ni ac rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd creu cyfleoedd i holl ddisgyblion Abertawe ddod yn ddwyieithog/amlieithog fel eu bod nhw'n dod allan o'n system addysg, yn falch o'u hunaniaeth ac yn hyderus i ddefnyddio'r holl ieithoedd y maen nhw wedi'u dysgu.
Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd, rydym yn rhoi cyfle i'n holl blant ffynnu yn yr iaith o'u dewis, gan gynyddu eu cyfleoedd bywyd a thrwy ddysgu mwy nag un iaith, hwyluso dysgu ieithoedd eraill.
Un o elfennau allweddol ein gweledigaeth yw rhoi cyfle ieithyddol cyfartal i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Cefnogir hyn ymhellach gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) sy'n gofyn am gymryd pob cam rhesymol i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol (ALP) yn Gymraeg lle mae dysgwr a'i riant/gofalwyr yn gofyn amdani.
Byddai'r cynnig hwn yn golygu uno Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Crug Glas i un Ysgol Arbennig ar
1 Medi 2025 ar safleoedd presennol, ac wedyn adleoli i lety pwrpasol ym mis Ebrill 2028, gan gynyddu nifer y lleoedd sydd wedi'u cynllunio yn yr ysgol. Rydym wedi adolygu anghenion iaith ein carfan bresennol o ddysgwyr ar draws ein hysgolion ac wedi dod i'r casgliad nad oes galw/gofyniad am ysgol arbennig cyfrwng Cymraeg yn Abertawe. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd y Gymraeg ar draws ein lleoliadau presennol yn glir a byddai'r ysgol newydd yn ceisio adeiladu ymhellach ar hyn wrth ddod â'r ddwy ysgol gyda'i gilydd.
Atodiad 1 - Crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad i ddisgyblion (Word doc, 38 KB)
Atodiad 2 - Crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad (Word doc, 94 KB)
Atodiad 3 - Cofnodion cyfarfodydd ymgynghori (Word doc, 114 KB)