Trên Bach Bae Abertawe
Trên tir 72 sedd yw Trên Bach Bae Abertawe, sy'n teithio ar hyd promenâd Abertawe, o Blackpill, West Cross, Norton, Ystumllwynarth, gan gynnig golygfeydd gwych o fae godidog Abertawe i deithwyr.

Amserlen
10.00am - 5.00pm (6.00pm yn ystod gwyliau haf yr ysgol)
Dydd Sadwrn 5 Ebrill tan Dydd Sul 28 Medi 2025:
- Bob penwythnos
- 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol (gan gynnwys gwyliau banc)
- Dydd Llun 7 Ebrill i ddydd Gwener 25 Ebrill (Gwyliau'r Pasg).
- Dydd Llun 5 Mai (Gŵyl Banc Calan Mai).
- Dydd Llun 26 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin (gwyliau'r Sulgwyn).
- Dydd Llun 21 Gorffennaf i ddydd Sul 31 Awst (gwyliau'r haf).
Sylwer: Mae Trên Bach Bae Abertawe yn dibynnu ar y tywydd, ac ni fydd yn teithio os bydd yr amodau'n wael.
Blackpill | 10.30am, 11.30am, 12.30pm, 2.00pm, 3.00pm, 4.00pm, 5.00pm (GH) |
Llwynderw | 10.35am, 11.35am, 12.35pm, 2.05pm, 3.05pm, 4.05pm, 5.05pm (GH) |
West Cross | 10.40am, 11.40am, 12.40pm, 2.10pm, 3.10pm, 4.10pm, 5.10pm (GH) |
Norton | 10.45am, 11.45am, 12.45pm, 2.15pm, 3.15pm, 4.15pm, 5.15pm (GH) |
Village Lane | 10.50am, 11.50am, 12.50pm, 2.20pm 3.20pm, 4.20pm, 5.20pm (GH) |
Oystermouth | 10.55am, 11.55am, 12.55pm, 2.25pm, 3.25pm, 4.25pm, 5.25pm (GH) |
Southend (Y Mwmbwls) | 11.00am, 12.00pm, 1.00pm, 2.30pm, 3.30pm, 4.30pm, 5.30pm (GH) |
GH - yn ystod gwyliau haf yr ysgol yn unig
Southend (Y Mwmbwls) | 11.00am, 12.00pm, 1.00pm, 2.30pm, 3.30pm, 4.30pm, 5.30pm (GH) |
Village Lane | 11.05am, 12.05pm, 1.05pm, 2.35pm, 3.35pm, 4.35pm, 5.35pm (GH) |
Oystermouth | 11.10am, 12.10pm, 1.10pm, 2.40pm, 3.40pm, 4.40pm, 5.40pm (GH) |
Norton | 11.15am, 12.15pm, 1.15pm, 2.45pm, 3.45pm, 4.45pm, 5.45pm (GH) |
West Cross | 11.20am, 12.20pm, 1.20pm, 2.50pm, 3.50pm, 4.50pm, 5.50pm (GH) |
Llwynderw | 11.25am, 12.25pm, 1.25pm, 2.55pm, 3.55pm, 4.55pm, 5.55pm (GH) |
Blackpill | 11.30am, 12.30pm, 1.30pm, 3.00pm, 4.00pm, 5.00pm, 6.00pm (GH) |
GH - yn ystod gwyliau haf yr ysgol yn unig
Prisiau
Mae ein tocyn 'mynd-fel-y-mynnoch' yn eich caniatáu i fynd ar y trên a'i adael gynifer o weithiau ag y dymunwch drwy gydol y dydd.
- Tocyn mynd-fel-y-mynnoch safonol - £7.50
- Tocyn mynd-fel-y-mynnoch consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £6.50
- Tocyn mynd-fel-y-mynnoch Pasbort i Hamdden - £4.50
- Tocyn mynd-fel-y-mynnoch tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) - £18.00
Prynwch eich tocyn ar y trên gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.
Gwybodaeth am fynediad
Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Caniateir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar y trên os ydynt dan reolaeth ac ar dennyn.
I gael rhagor o wybodaeth am Trên Bach Bae Abertawe: outdoorattractions@swansea.gov.uk