Prom Abertawe
Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe.

Mae Prom Abertawe, gyda'i amrywiaeth o atyniadau ynghyd ag ehangder 5 milltir Bae Abertawe, yn gyrchfan gwych i ymwelwyr a thrigolion o bob oed.

Gerddi Southend
Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych

Lido Blackpill
Treuliwch brynhawn heulog gyda'r teulu ym mharc dŵr awyr agored Abertawe.

Llyn Cychod Singleton
Dewch i reidio pedalo a theithio o gwmpas y llyn neu rhowch gynnig ar chwarae golff gwallgof gyda'r teulu.

Parc Sglefrio'r Mwmbwls
Cyfleuster awyr agored o'r radd flaenaf ar hyd Prom Abertawe yw Parc Sglefrio'r Mwmbwls.

Trên Bach Bae Abertawe
Trên tir 72 sedd yw Trên Bach Bae Abertawe, sy'n teithio ar hyd promenâd Abertawe, o Blackpill, West Cross, Norton, Ystumllwynarth, gan gynnig golygfeydd gwych o fae godidog Abertawe i deithwyr.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 03 Mai 2024