Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (trosglwyddo o ysgol arall)

Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd.

Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg ar gyfer eich plentyn? Mae rhagor o wybodaeth am y manteision i'w chael yma..

Mae'r broses Symud Ysgol ar gyfer unrhyw blentyn sydd eisoes yn mynd i ysgol sy'n  symud i Abertawe o awdurdod lleol neu wlad arall, neu sy'n byw yng Abertawe ac sydd am symud o un ysgol i un aral.

Cyn i chi benderfynu gwneud cais am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, am resymau ac eithrio symud tŷ, dylech ystyried eich opsiynau'n ofalus iawn a thrafod ein rhesymau ac unrhyw faterion gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Nid yw newid ysgol bob amser yn datrys problem, ac mewn rhai amgylchiadau, gall symud beri anawsterau go iawn, yn enwedig lle bydd disgybl hanner ffordd drwy astudiaethau arholiadau, er enghraifft yn ystod blynyddoedd 10 ac 11.

Os ydych yn symud i ardal yn ystod y flwyddyn ysgol neu am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, efallai y byddwch am drefnu ymweld â'r ysgol arfaethedig i drafod y symud a'r opsiynau sydd ar gael. Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â'r trosglwyddiad bydd angen i chi lenwi ffurflen gais.

Gwybodaeth bwysig i'w nodi cyn gwneud cais
Caiff ceisiadau eu prosesu yn nhrefn dyddiad o fewn 15 niwrnod ysgol neu 28 niwrnod calendr (pa un bynnag sydd gyntaf) o'r cais yn cael ei dderbyn gan yr awdurdod lleol.

Y cyfeiriad lle mae'r disgybl yn byw -ar y ffurflen gais mae'n rhaid i chi ddarparu'ch cyfeiriad cartref presennol ar gyfer y cwestiwn hwn, nid un arfaethedig neu gyfeiriad rydych yn bwriadu symud iddo. Os ydych yn symud cartref, dylech gynnwys y cyfeiriad symud arfaethedig a'r dyddiad symud fel gwybodaeth ychwanegol ar y cais.

Os oes gennych fwy nag un plentyn sydd angen lle mewn ysgol, cwblhewch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.

Wrth lenwi'r ffurflen dylid defnyddio prif gyfeiriad preswyl y disgyblion.  Cyfeiriwch at ein llyfryn . Os ydych yn symud cartref, dylech hefyd gynnwys eich cyfeiriad arfaethedig a'ch dyddiad symud. 

Nid yw symud i'r dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.

Os oes lle yn y grŵp blwyddyn priodol, bydd eich plentyn yn derbyn lle. Os yw'r grŵp blwyddyn yn llawn, hynny yw mae'r ysgol wedi derbyn hyd at ei nifer derbyn (ND), cysylltir â chi'n ysgrifenedig i ddweud wrthych nad yw'r Awdurdod Lleol yn gallu cynnig lle i'ch plentyn. Cewch yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu lle yn yr ysgol ddewisol.

Os na chynigir lle i chi oherwydd bod yr ysgol rydych yn gwneud cais amdani'n llawn, rhoddir enw'ch plentyn ar y rhestr aros ac fe'i cedwir ar y rhestr am weddill y flwyddyn academaidd. Os  bydd unrhyw le'n dod ar gael pan fydd enw'ch plentyn ar y rhestr aros, cynigir y lle hwnnw i blant y mae'r meini prawf gorymgeisio.

Gellir cael gafael ar y ffurflen gais yn y ffyrdd canlynol:

 

Trefniadau derbyn - trosglwyddo yn ystod y flwyddyn 2024 / 2025

Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol

 

Gwneud cais ar-lein am le mewn ysgol gynradd yng nghanol blwyddyn

Gwneud cais i newid ysgol gynradd yn ystod y flwyddyn academaidd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2024