Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau fan ar gyfer defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC)

Os ydych am ddefnyddio fan neu ôl-gerbyd i ddod â gwastraff o'ch cartref i ganolfan ailgylchu, mae angen hawlen arnoch.

Mae'r cynllun hawlenni yn helpu i sicrhau mai gwastraff cartref yn unig (ac nid gwastraff masnachol) sy'n cael ei waredu yn ein canolfannau ailgylchu.

Nid yw'r safleoedd wedi'u trwyddedu i dderbyn gwastraff o ffynhonnell fasnachol ac mae eu defnyddio at y diben hwn yn anghyfreithlon. Mae masnach anawdurdodedig hefyd yn arwain at faterion diogelwch sy'n gysylltiedig â cherbydau mwy yn gyffredinol, ac yn ychwanegu at amserau aros ar gyfer defnyddwyr dilys yn unig. Diffinnir gwastraff masnachol fel gwastraff sy'n deillio o unrhyw fasnach neu fusnes neu weithgareddau diwydiannol neu fasnachol. Ni all unrhyw un sydd wedi derbyn taliad am gludo gwastraff neu sy'n cynhyrchu gwastraff o'u gwaith fynd â'r gwastraff hwn i CAGC.

 

Ynghylch yr hawlen

  • Mae'r hawlen AM DDIM.
  • Bydd cerbydau â hawlen yn gallu defnyddio canolfan Clun neu safle byrnu Llansamlet yn unig.
  • Mae angen hawlenni ar gyfer:
  • Ni chaniateir i gerbydau gwaharddedig barcio y tu allan i'r canolfannau ailgylchu a chario gwastraff i mewn i'r safle.
  • Mae'r hawlenni a mynediad i ganolfannau ailgylchu ar gyfer preswylwyr Abertawe yn unig.

 

Gwneud cais am hawlen

Gwneud cais am hawlen fan i ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Gwneud cais am hawlen fan i ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff cartref

Bydd angen i chi ddarparu prawf o'r ddogfen gofrestru V5 wreiddiol a phrawf cyfatebol o'ch cyfeiriad yn Ninas a Sir Abertawe e.e. bil cyfleustod  neu fil Treth y Cyngor diweddar, wrth gwblhau eich cais ar-lein.

 

Sut i ddefnyddio'r hawlen

Mae'r drwydded yn caniatáu i chi fynd naill ai i'r Safle Byrnu neu Glun ar 12 achlysur mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Wrth gyrraedd y Safle Byrnu ne CAGC Clun, mae'n rhaid i chi roi un o'ch trwyddedau i aelod o staff y safle a fydd yn cadarnhau bod manylion y cerbyd yn cyd-fynd â'r rhai ar y drwydded ac yn cadw trwydded i ddangos y cafwyd un ymweliad. Os ydych yn ymweld ag unrhyw CAGC fwy nag unwaith mewn diwrnod, caiff pob ymweliad ei gyfrif ar wahân a chymerir eich trwydded yn unol â hyn.

Bydd angen i chi ailgeisio am drwydded os yw'ch manylion yn newid newid cyfeiriad, cerbyd newydd, etc.) a dychwelyd unrhyw drwyddedau heb eu defnyddio dan y cyfeiriad blaenorol neu rif cofrestru blaenorol y cerbyd.

 

Cerbydau a logir

Nid oes angen trwydded ar faniau sy'n cael eu llogi am 3 diwrnod neu lai i ymweld â'r safle. Mae'n rhaid i wastraff cartref sy'n cael ei gludo i'r safle mewn cerbyd wedi'i logi gael ei yrru gan y person sy'n byw yn yr eiddo a restrir ar y cytundeb llogi neu mae'n rhaid i'r person o'r eiddo fod yn deithiwr yn y cerbyd.

Bydd angen i staff y safle weld prawf o gyfeiriad a'r cytundeb llogi cyn y gellir gwaredu gwastraff. Bydd angen i'r math o gerbyd a logir gydymffurfio â'r un gofynion â faniau y mae angen hawlen arnynt.

 

Gwaredu gwastraff masnachol

Ni all y safleoedd dderbyn gwastraff masnachol. Ni ellir gwaredu gwastraff masnachol yn y cyfleuster trwyddedig yn y Safle Byrnu nes i chi dalu'r ffi briodol wrth y gât.

Mae gwaredu gwastraff masnachol yn y safle CAGC yn drosedd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a gallai arwain at ddirwy o £50,000 a/neu 2 flynedd o garchar.

Mae gwybodaeth am gael gwared ar wastraff masnachol ar gael ar ein tudalennau Gwastraff masnachol ac ailgylchu.

 

Adnabod Platiau Rhif Awtomatig (APRHA)

Mae APRHA yn ffurf ar CCTV sy'n monitro platiau rhif cerbydau wrth iddynt ddod i mewn i CAGC. Mae'n gweithredu mewn CAGC i gefnogi'r cynllun trwyddedau i geisio atal masnachwyr rhag defnyddio'r safleoedd yn anghyfreithlon. Gall hefyd roi data cyfrif traffig i helpu cynllunio staffio a datblygiadau ar y safle yn y dyfodol.

Ni chaiff gwybodaeth a gesglir gan yr APRHA ei defnyddio gan Ddinas a Sir Abertawe at unrhyw ddiben arall heblaw am yr hyn a restrir uchod, er y gellir ei rhannu â sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i ymchwilio i achosion o dorri rheoliadau sy'n ymwneud â chludo a gwaredu gwastraff.

 

Dyletswydd gofal - preswylwyr sy'n defnyddio busnes i glirio/gwaredu gwastraff

Mae gan ddeiliaid tai ddyletswydd gofal i sicrhau bod unrhyw wastraff a gaiff ei gynhyrchu yn eu cartref ganddynt hwy neu gan fasnachwyr a delir yn cael ei waredu'n briodol, yn ddiogel ac yn gyfreithlon, naill ai ganddynt hwy eu hunain neu gan gludwr gwastraff trwyddedig.

Os caiff masnachwyr eu contractio i gael gwared ar y gwastraff hwn, dylai deiliaid tai sicrhau eu bod wedi'u hawdurdodi i gludo'r gwastraff hwnnw a bod ganddynt drwydded cludo gwastraff.

Gwirio a yw sefydliad wedi'i gofrestru fel cludwr, brocer neu ddeliwr gwastraff (Cyfoeth Naturiol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Ni all masnachwyr gael gwared ar y gwastraff mewn CAGC.

Gwneud cais am hawlen fan i ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff cartref

Bydd angen i chi ddarparu dogfen gofrestru V5 wreiddiol, a phrawf cyfatebol o'ch cyfeiriad yn Ninas a Sir Abertawe e.e. bil cyfleustodau neu fil ar gyfer Treth y Cyngor diweddar, a llun o'r cerbyd wrth wneud cais.