Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau personol

Mae trwydded bersonol yn galluogi unigolion i gyflenwi, neu awdurdodi cyflenwi alcohol o sefydliad â thrwydded mangre.

Rhaid i'r holl ymgeiswyr gael gymhwyster trwyddedu achrededig cyn iddynt gael trwydded.

Rhaid i bob eiddo sy'n cyflenwi alcohol gael deilydd trwydded a nodir. Enw hyn yw goruchwyliwr mangre dynodedig (GMD).

Nid oes angen trwydded bersonol arnoch i ddarparu adloniant rheoledig neu luniaeth hwyrnos, nac am gyflenwi alcohol dan dystysgrif eiddo clwb neu hysbysiad o ddigwyddiad dros dro.

Sut mae gwneud cais

Cais am drwydded bersonol Cais am drwydded bersonol

Rhaid i chi gwblhau'r ffurflen gais yn llawn gan gynnwys y ffurflen datgelu euogfarnau a datganiadau. Bydd angen i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.  

Dylech hefyd gynnwys datgeliad cofnodion troseddol sylfaenol, copi o'ch tystysgrif cymhwyster a 2 lun pasbort (ardystio).

Ffioedd

Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003 Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.

Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud pob siec yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon ynghyd â'r ffurflen.

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.

Caniatâd dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 843330 neu e-bostwich trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk

 

Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o apelio'r penderfyniad, ond heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad cynlluniedig.

Mae gennym gofrestr gyhoeddus sy'n nodi'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. I weld y gofrestr, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu i drefnu amser. Mae'r gofrestr ar gael i'w gweld yn ystod oriau swyddfa yn unig.

Arweiniad i'r sawl sy'n gwneud cais am drwydded bersonol

Gwybodaeth i'r sawl sy'n gwneud cais am drwydded bersonol. Darllenwch y canllawiau hyn cyn gwneud cais am drwydded bersonol.

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am drwydded bersonol a datgeliad

Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer trwydded bersonol. Dylech ddarllen hwn cyn cwblhau'r ffurflen gais.

Cais am drwydded bersonol

Gallwch lenwi'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded bersonol. Mae trwydded bersonol yn galluogi unigolion i werthu, neu awdurdodi gwerthu alcohol o sefydliad â thrwydded mangre.