Toglo gwelededd dewislen symudol

Tudalen Cysylltiadau Allweddol

Sefydliadau a all ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Cefnogi'r lluoedd arfog yn y gymuned.

Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn darparu datrysiadau llety i bobl ag anableddau, cyn-filwyr a phobl ag anghenion cymhleth ychwanegol ar draws Cymru a Swydd Amwythig.

Elusen yw Cyn-filwyr Dall y DU sy'n cefnogi cyn-filwyr dall.

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd

Darparu cefnogaeth gydol oes i'r rheini sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol neu'r Awyrlu Brenhinol, a'u teuluoedd.

Veterans Gateway

Cefnogi cyn-aelodau a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog gyda gofal iechyd a materion tai, a hefyd yn rhoi cyngor ar gyflogadwyedd, materion ariannol, perthnasoedd personol a mwy.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Yn darparu cymorth gydol oes i bersonél sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, a'u teuluoedd.

Hwb Cyn-filwyr Abertawe

Cwmni buddiannau cymunedol a ffurfiwyd ar 24 Awst 2021 gan grŵp bach o gyn-filwyr a oedd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yw Hwb Cyn-filwyr Abertawe.

Milwyr wrth gefn y Lluoedd Arfog

Mae lluoedd y milwyr wrth gefn yn chwarae rôl allweddol o ran bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol, gwaith cadw'r heddwch ac ymdrechion dyngarol tramor i gefnogi cymunedau gartref.

Lluoedd cadetiaid y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae lluoedd cadetitiad y Weinyddiaeth Amddiffyn yn darparu profiad cadetiaid cyfoes heriol ac ysgogol sy'n datblygu ac yn ysbrydoli pobl ifanc mewn amgylchedd diogel.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Mai 2024