Sut gallaf ymuno â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)?
Gall unigolion gael eu hatgyfeirio gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys practis, dietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig neu therapyddion galwedigaethol.

Sut gallaf ymuno â'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)?
Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i un o'n gweithwyr ymarfer corff proffesiynol.
Bydd aelod o dîm NERS yn eich gwahodd i sesiwn yn y lleoliad sydd fwyaf cyfleus i chi. Bydd y sesiwn gyntaf hon yn cynnwys taith o gyfleusterau'r ganolfan hamdden a throsolwg byr o'r cynllun.
- Gofynnir i chi ddod i gyfarfod ychwanegol, a fydd yn gyfarfod un i un neu grŵp. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys asesiad iechyd (asesu pwysedd gwaed a phwysau).
Bydd y rhaglen yn para am hyd at 16 wythnos a bydd yn benodol i'ch anghenion er mwyn eich helpu i gyflawni'r canlyniadau/nod terfynol.
Ym mis Ionawr 2024, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (Yn agor ffenestr newydd) system atgyfeirio gyflymach a mwy effeithiol ar y we ar gyfer NERS. Mae Porth Theseus yn galluogi atgyfeiriadau i gael eu gwneud drwy glicio botwm ac yn rheoli cleifion mewn un system o'r adeg atgyfeirio hyd at gwblhau NERS a gadael y cynllun. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol ac os hoffech gael cymorth o ran atgyfeirio neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
Cysylltu â'r Tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
Cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i glywed ein newyddion a chael rhagor o wybodaeth amdanom cyn gynted ag y bydd y rhain ar gael.