Ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg
Gwybodaeth am ein lleoliad , oriau agor a sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.
Rydym yn symud
O 2 Rhagfyr 2025 ymlaen bydd ein gwasanaeth yn gweithredu yn ein hystafell ymchwil newydd ar lawr gyntaf Y Storfa. Disgwylir i symud y casgliadau archifau ddigwydd yn ystod misoedd cynnar 2026.
Byddwn yn dal i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd drwy gydol y broses gymhleth hon, ond bydd mynediad i'r casgliadau yn gyfyngedig a bydd yn hanfodol cysylltu â ni ymlaen llaw i drafod eich gofynion ac archebu unrhyw ddogfennau yr hoffech chi eu gweld neu archebu copïau i'w anfon yn ddigidol. E-bostiwch ni am ragor o wybodaeth.
Ceir mwy o wybodaeth am brosiect Y Storfa yma
Dyma ein horiau agor:
Dydd Mawrth: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Mercher: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Iau: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Dydd Gwener: 9 yyb-12.30yh a 1.30yh-5yh
Cofrestru am docyn darllenydd:
Mae ein hen system docynnau ddarllenydd wedi dod i ben a bydd angen i chi wneud cais am docyn darllenydd newydd, sef y Cerdyn Archifau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i wasanaethau archifau eraill ledled y wlad. Gallwch chi wneud cais ar-lein a chasglu'ch tocyn pan ymwelwch: darganfyddwch sut mae'n gweithio..
Ydych chi'n chwilio am edrychiad cyflym neu gopi o fap neu ddogfen?
Am dâl cymedrol, gallwn ni'ch helpu heb angen ymweliad. E-bostiwch ni gyda'ch ymholiad a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu chi.
Ble rydym ni:
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Y Storfa,
277-278 Stryd Oxford
Abertawe
SA1 3EL
