Beth yw Cynllun Atgyfeirio Cymru ar gyfer Ymafer (NERS)?
Nod y cynllun yw annog unigolion sy'n anweithgar ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu.
Mae'r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe sy'n cynnwys meddygon teulu lleol, nyrsys meddygfeydd, deietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.
Drwy'r cynllun hwn, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o raglenni y gall gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio pobl iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cyfeirio i ymarfer corff
- atal cwympiadau
- adsefydlu cardiaidd
- adsefydlu ysgyfeiniol
- ymarfer corff yn dilyn strôc
- adsefydlu canser
- rhaglen rheoli pwysau
Mae'r cynllun cyfeirio'n para oddeutu 16 wythnos, gan ddibynnu ar y rheswm dros gyfeirio, ac fe'i cyflwynir ym mhob canolfan hamdden a'r LC yn ogystal a chanolfannau cymunedol dethol ar draws Abertawe.
Bydd cleientiaid sy'n cael eu cyfeirio i'r cynllun yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys sesiynau cadair, dosbarthiadau ffitrwydd, cerdded nordig a sesiynau campfa. Mae'r dosbarthiadau hyn yn para hyd at awr (oddeutu) ac yn cael eu cyflwyno mewn grwpiau bach o bobl.
Mae'r hyfforddwyr cyfeirio meddygon teulu'n cynnig:
- asesiadau grŵp neu un i un
- staff proffesiynol hynod gymwysedig
- sesiynau yn y gymuned
- cyngor ac arweiniad
Ar ôl i'r cleientiaid gwblhau'r rhaglen, rhoddir yr opsiwn iddynt barhau â'r rhaglen bersonol am bris gostyngol. Y pris am bob dosbarth ymarfer corff yw £2.50 y sesiwn.
Buddion y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
Mae'r holl sesiynau'n rhai grŵp gyda phobl sydd mewn cyflwr a lefelau ffitrwydd tebyg ac fe'u cynhelir gan aelodau o staff cymwys mewn amgylchedd cyfeillgar.
Mae nifer o fuddion o gymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys:
- dod yn fwy heini
- gwella ffordd o fyw
- rheoli pwysau
- gwell iechyd meddwl
- gwell system resbiradol
- gwell cylchrediad
- gwella ystum symudedd a llai o boen cymalau
- gwella cryfder a ffyrfder cyhyrau
- rhyngweithio cymdeithasol a chwrdd â phobl newydd
- datblygu hyder
- ansawdd bywyd
- gwella lles corfforol a seicolegol