Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynwent Ystumllwynarth a'r Castell gan gynnwys Coed Peel

Mae'r ardal hon yn cynnwys Coed Peel, y fynwent gan gynnwys safle claddu coetir a thiroedd y castell.

Mae hon yn ardal bleserus ac amrywiol, gyda golygfeydd godidog dros Fae Abertawe, rhwng ardaloedd trefol Norton ac Ystumllwynarth, y gall y cyhoedd gael mynediad iddi'n hawdd.

Mae Coed Peel, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (Yn agor ffenestr newydd), yn goetir llydanddail mewn hen chwarel galchfaen. Mae Coed Peel ar safle chwarel Callencroft gynt. Y fasarnen sy'n flaenllaw yng nghanopi'r coetir gyda'r rhywfaint o goed ynn a deri. Mae Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls wedi helpu i wella mynediad i'r coetir drwy osod llwybr estyll yno'n ddiweddar.

Mae'r fynwent yn dyddio'n ôl i 1883 pan gafwyd y gladdedigaeth gyntaf, ac mae'r hen gofebion a cherfluniau'n cynrychioli cyfnod arwyddocaol o hanes lleol. Ehangwyd y fynwent yn y 1930au, pan gyflwynwyd adran fwy modern gyda lawnt, a golygfeydd hardd dros fae'r Mwmbwls. Roedd y lleoliad hwn yn briodol iawn ar gyfer yr achlysur pan gollodd criw bad achub y Mwmbwls eu bywydau, a chawsant eu claddu yn y rhan hon o'r fynwent, yn edrych allan i'r môr.

Mae'r safle cyfan yn bwysig i fywyd gwyllt megis moch daear a rhywogaethau o ystlum; adar megis y gnocell werdd, llwyd y berth, y fronfraith (Rhan o'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth), y llinos werdd, yr eurbinc a choch y berllan; amffibiaid megis y broga a'r llyffant du ac ymlusgiaid megis y ddallneidr.

Mae Ffordd y Mwmbwls a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls yn mynd trwy Goed Peel, y fynwent a thiroedd y castell, gan gysylltu'r holl safle.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 8)
  • Mae Gorchymyn Cadw Coed (GCC) yn berthnasol i Goed Peel

Cyfleusterau

  • Maes parcio yn y fynwent (oddi ar Heol Newton, y Mwmbwls)
  • Lle i barcio ceir (cyfyngir gan amser) ger Castell Ystumllwynarth
  • Amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai ar Heol Newton yn y Mwmbwls

Gwybodaeth am fynediad

Ystumllwynarth, y Mwmbwls
Cyfeirnod Grid SS610882
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Gellir cyrraedd y safle o fannau amrywiol. Mae'r brif fynedfa i'r fynwent a Choed Peel oddi ar Heol Newton yn Ystumllwynarth/y Mwmbwls, gyferbyn â Pharc Underhill.

Llwybrau troed

Ceir mynediad i gadeiriau olwyn a bygis ar lwybrau tarmac/ffyrdd mynediad o gwmpas y fynwent a'r castell, ond, mae'r ffodd fynediad i'r fynwent yn serth iawn.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf i'r fynwent/Coed Peel ar gyffordd Heol Newton a Heol Langland, tua ¼ milltir o'r fynedfa. Ar gyfer y castell, mae safle bws ger Lôn y Castell.

Dim rhagor ar gael

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu