Cynllun Datblygu Lleol - Gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf
Bydd nodi'r materion, y cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu Abertawe, a diffinio gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf yn gosod yr agenda strategol ar gyfer CDLl2.
Materion Allweddol
Man cychwyn allweddol ar gyfer CDLl yw ceisio adeiladu consensws ar y materion strategol allweddol y dylai'r cynllun geisio mynd i'r afael â nhw. Efallai mai'r rhain yw'r heriau sy'n wynebu Abertawe i CDLl2 fynd i'r afael â nhw, neu efallai cyfleoedd y dylai'r cynllun fanteisio arnynt i sicrhau effeithiau cadarnhaol. Y man cychwyn yw adfyfyrio ar y Cynllun Llesiant ar gyfer Abertawe, sy'n nodi set amrywiol o faterion wedi'u grwpio o dan nodau llesiant. Rydym wedi adeiladu ymhellach ar y rhain ac wedi cynhyrchu set gynhwysfawr o faterion allweddol sy'n cydnabod yr agweddau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y gall gwaith datblygu ddylanwadu arnyn nhw.
Man cychwyn allweddol ar gyfer CDLl2 yw ceisio adeiladu consensws ar y materion strategol allweddol y dylai'r cynllun geisio mynd i'r afael â nhw. Efallai mai'r rhain yw'r heriau sy'n wynebu Abertawe i CDLl2 fynd i'r afael â nhw, neu efallai'r cyfleoedd y dylai'r cynllun fanteisio arnyn nhw i sicrhau effeithiau cadarnhaol. Y man cychwyn yw adfyfyrio ar y 'Cynllun Llesiant' ar gyfer Abertawe, sy'n nodi set amrywiol o faterion wedi'u grwpio o dan 'nodau llesiant'. Rydym wedi adeiladu ymhellach ar y rhain ac wedi cynhyrchu set gynhwysfawr o faterion allweddol sy'n cydnabod yr agweddau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y gall gwaith datblygu ddylanwadu arnyn nhw.
Gweledigaeth
Wrth ddod â'r materion at ei gilydd, mae angen i ni feddwl beth yw ein dyhead yn y pen draw ar gyfer sut rydym am i Abertawe edrych yn 2038. Wrth ddatblygu'r weledigaeth rydym wedi ceisio sicrhau cysondeb â'r Cynllun Llesiant a Chynllun Corfforaethol y Cyngor, yn ogystal â myfyrio ar yr hyn a gyflwynir yn y CDLl presennol. Rydym am i'r weledigaeth fod yn uchelgeisiol a chyflawnadwy, gan ddisgrifio priodoleddau nodedig Abertawe fel lle, a thynnu sylw at faterion â blaenoriaeth sy'n gyson â ffocws 'Un Abertawe' y Cynllun Llesiant.
Gan ddod â'r materion at ei gilydd, mae angen i ni feddwl beth yw ein dyhead yn y pen draw ar gyfer sut rydym am i Abertawe edrych yn 2038. Bydd y weledigaeth yn ein hatgoffa'n gyson drwy gydol y broses o lunio cynlluniau, o beth yw'r canlyniad cyffredinol y dylem fod yn ceisio ei gyflawni wrth bennu dewis strategaeth a set o bolisïau a chynigion
Amcanion
Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth, mae angen i ni bennu'r prif amcanion sy'n ymwneud â'r materion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. O'u darllen ynghyd â'r weledigaeth, dylai'r amcanion hyn osod cyd-destun clir y bydd y strategaeth ar gyfer CDLl2 yn cael ei llunio ohono. Mae amcanion CDLl presennol Abertawe wedi'u hadolygu'n gynhwysfawr i lywio'r amcanion newydd arfaethedig hyn.
Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth, mae angen i ni bennu'r amcanion allweddol sy'n ymwneud â'r materion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. O'u darllen ynghyd â'r weledigaeth, dylai'r amcanion hyn osod cyd-destun clir y bydd y strategaeth ar gyfer CDLl2 yn cael ei llunio ohono. Mae amcanion CDLl presennol Abertawe wedi'u hadolygu'n gynhwysfawr i lywio'r amcanion newydd arfaethedig hyn.
Senarios ar gyfer twf yn y dyfodol
Un o'r penderfyniadau pwysicaf i'w wneud ar ddechrau CDLl2 yw datrys beth yw'r senario mwyaf priodol a thebygol ar gyfer maint y twf yn Abertawe. Rydym wedi bod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth ar lefelau posibl o dwf poblogaeth a'r anghenion disgwyliedig ar gyfer cartrefi a swyddi newydd dros y cyfnod hyd at 2038. Mae'r gwaith hwn wedi creu senarios ar gyfer nifer y cartrefi a'r swyddi newydd y mae angen i'r cynllun newydd ddarparu ar eu cyfer, a fydd yn ei dro yn dylanwadu ar faint o dir y bydd angen iddo fod ar gael ar gyfer datblygiad preswyl a busnes. Rydym wedi gweithio gyda dadansoddwyr arbenigol i gynhyrchu ystod o ragolygon economaidd a phoblogaeth yn seiliedig ar ddefnyddio gwahanol setiau data. Mae'r pedwar senario yn dangos amrywiaeth o gartrefi a swyddi posibl i'w darparu ar eu cyfer bob blwyddyn.
Un o'r penderfyniadau pwysicaf i'w gwneud ar ddechrau'r broses CDLl2 yw datrys beth yw'r senario mwyaf priodol a thebygol ar gyfer maint y twf yn Abertawe. Rydym wedi bod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth ar lefelau posibl o dwf yn y boblogaeth ac anghenion disgwyliedig ar gyfer cartrefi a swyddi dros y cyfnod hyd at 2038. Mae'r gwaith hwn wedi creu senarios ar gyfer nifer y cartrefi a swyddi newydd y mae angen i'r cynllun newydd ddarparu ar eu cyfer, a fydd yn ei dro yn dylanwadu ar faint o dir y bydd angen iddo fod ar gael ar gyfer datblygiad preswyl a busnes.
Dulliau gofodol posibl o dyfu
Ochr yn ochr â gwneud penderfyniadau ynghylch maint y twf yn Abertawe yn y dyfodol, rydym yn dechrau meddwl am y dull cyffredinol o ymdrin â lle dylid canolbwyntio ar ddatblygu i gyflawni'r twf hwnnw. Rydym wedi cyfeirio at y rhain yn ddulliau gofodol ac mae nifer wedi'u datblygu yng nghyd-destun y materion allweddol ac o ran daearyddiaeth wahanol Abertawe. Maen nhw'n cyflwyno gwahanol ffyrdd o gyflawni maint y twf yr ystyrir ei fod yn briodol ac i gyfrannu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion sy'n dod i'r amlwg.
Ochr yn ochr â gwneud penderfyniadau ynghylch graddfa'r twf yn Abertawe yn y dyfodol, rydym hefyd yn gofyn am farn ar y dull cyffredinol o ymdrin â lle y dylid canolbwyntio ar ddatblygu i gyflawni'r twf hwnnw. Cyfeirir at y rhain fel y'u gelwir yn 'ddulliau gofodol'. Datblygwyd nifer o wahanol ddulliau yng nghyd-destun y materion allweddol ac o ran daearyddiaeth unigryw Abertawe. Mae pob dull a awgrymir yn darparu gwahanol ffyrdd o gyflawni maint y twf a ystyrir yn briodol, ac i gyfrannu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion sy'n dod i'r amlwg.
Ddweud eich dweud
Ymgynghoriad ar gau
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y materion allweddol drafft, y weledigaeth, yr amcanion a'r opsiynau twf ar gyfer CDLl2 rhwng Ebrill a Mehefin 2024.
Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, ymgynghorodd y Cyngor ar
'ddogfen ymgynghori 'Dechrau'r Sgwrs' (PDF, 4 MB), ynghyd â phapurau technegol ar y
Materion Allweddol, y Weledigaeth a'r Amcanion (PDF, 1 MB), a'r
Senarios Twf a'r Ymagweddau Gofodol (PDF, 4 MB). Mae'r Ystafell Ymgynghori Rithwir ar gael i'w gweld o hyd ond nid ydym yn derbyn sylwadau mwyach.
Mae'r Cyngor yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o waith parhaus i gynhyrchu 'Strategaeth a Ffefrir' ddrafft CDLl2, y disgwylir y bydd ymgynghoriad yn ei chylch ar ddiwedd 2024.