CETMA Abertawe
Dydd Llun i ddydd Iau, 10.00am - 4.00pm
- Banciau bwyd a chefnogaeth
- Lle Llesol Abertawe
- Cynhyrchion mislif am ddim
- Data Ffonau Symudol am ddim
- Cyfleusterau'r lleoliad
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Rydym yn cynnig pecynnau bwyd brys 24 awr y bwriedir iddynt fwydo unigolion am 24 awr nes eu bod yn gallu cyrraedd banc bwyd/derbyn eu taliadau budd-dal. Nid ydym yn fanc bwyd cynhwysfawr, fodd bynnag, gallwn gyfeirio pobl at fanciau bwyd mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, mae gennym berthynas dda â Banc Bwyd Sgeti ar gyfer atgyfeiriadau.
Lle Llesol Abertawe
Dydd Llun i ddydd Iau o 10am i 4pm.
Yn ystod ein horiau agor gall unrhyw un ddod i mewn i'r swyddfa i gysgodi rhag y tymheredd/tywydd.
- Gemau / gemau bwrdd
- gall defnyddwyr hefyd chwarae gêm ar gonsol. Ar hyn o bryd mae PS3 a Sega MegaDrive ar gael gennym, gyda detholiad o gemau. Mae amrywiaeth o gemau bwrdd ar gael hefyd
- Mae lluniaeth ar gael
- mae gennym amrywiaeth o greision, ac rydym hefyd yn cynnig cawl, te/coffi a dŵr potel
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
- pan fydd defnyddwyr yn yr hwb cynnes, gallant hefyd holi ynghylch yr ystod o wasanaethau eraill rydym yn eu cynnig, a'u defnyddio, ac mae'n bosib y byddwn yn gallu helpu gydag ymholiadau cyffredinol eraill neu eu cyfeirio at wasanaethau.
Fel un o bartneriaid WeAreGroup, gallwn helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni apêl ar-lein amrywiol a rhai ffurflen cais eraill y llywodraeth. Gellir trefnu apwyntiadau o bell ac wyneb yn wyneb; mae apwyntiadau ar yr un diwrnod/galw heibio hefyd yn opsiwn (gan ddibynnu a oes slotiau ar gael). Mae'r gwasanaethau a gwmpesir gan hyn yn cynnwys:
- Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (apeliadau, nid ceisiadau cychwynnol) - Taliadau Annibyniaeth Personol, Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth etc.
- Hawliadau Arian Sifil ar-lein
- Gwasanaeth Cyfiawnder Sengl
- Help gyda ffioedd
- Ysgariad
- Profiant
Cynhyrchion mislif am ddim
- Dydd Llun - dydd Iau, 10.00am - 4.00pm
Rydym yn cynnig bagiau brown bach am ddim sy'n cynnwys padiau/tamponau i unrhyw sydd eu hangen.
Data Ffonau Symudol am ddim
Fel rhan o'r Gronfa Ddata Genedlaethol, gallwn ddarparu data/cardiau SIM ar gyfer ffonau symudol am ddim. Mae gennym stoc o gardiau SIM O2, Three a Vodafone i'w rhoi (gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael).
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Defnydd am ddim o gyfrifiaduron/ddyfeisiau
- Toiledau / toiledau hygyrch