Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt

Mae'r ganolfan gymunedol hon yn gartref i gyfleuster Men's Shed/Lle Llesol Abertawe cyfeillgar, sy'n cynnig y cyfle i ddysgu sgiliau a chwrdd â phobl eraill yn y gymuned.

Lle Llesol Abertawe - Sied Gymunedol Gateway to Gower

Ar agor bob yn ail ddydd Mercher 11.30am - 2.30pm.

Mae'r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys sgiliau gwaith coed sylfaenol, cerfio llwyau, creu printiau leino, crochenwaith a chymorth TG sylfaenol. Mae croeso i bobl weithio ar eu prosiectau a'u diddordebau eu hunain, neu gallant ddod am baned a sgwrs mewn man cynnes a chroesawgar.

Bydd posteri a thaflenni i rannu gwybodaeth, cymorth a digwyddiadau hefyd ar gael.

  • Defnydd am ddim o gyfrifiaduron / ddyfeisiau
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mae lluniaeth ar gael:
    • bydd bwyd poeth ar gael rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (8, 22 Ionawr; 5, 19 Chwefror; 5, 19 Mawrth)
    • bydd te, coffi a bisgedi ar gael ym mhob sesiwn
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain

gatewaytogowershed@gmail.com
https://www.facebook.com/people/Gateway-To-Gower-Community-Shed/61553572605058/

Cyfleusterau'r lleoliad

  • WiFi am ddim
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl

Cyfeiriad

Murton Green Road

Llandeilo Ferwallt

Abertawe

SA3 3AT

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps
Dim rhagor ar gael

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu