Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Capel Cilfach

Wyneb angel

Mae rhai'n tybio mai Cyffesgell yw'r gilfach hon ond mae'n eithaf posibl mai sedd i deulu oedd hi. Yn y gilfach siâp bwa, canfuwyd olion ffresgos o'r 14eg Ganrif. Mae'r paentiadau'n defnyddio pigment coch, melyn a du ac yn darlunio pâr o angylion. Credir mai Seraffiaid, yr angylion mwyaf sanctaidd o'r holl angylion, yw'r rhain â'u heurgylchoedd a'u tri phâr o adenydd coch.

Gwelir olion tarian wedi'i phaentio hefyd ac mae gwaith archwilio gofalus wedi datgelu manylion golygfeydd o ffigurau ac iddynt forderi addurniadol a thystiolaeth o batrymau gwaith maen yng ngoledd y ffenest.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2025